Canolfan hamdden yn cau dros nos i arbed pŵer
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/8/2011
Canolfan hamdden yn cau dros nos i arbed pŵer 

Bydd Canolfan Hamdden Llanelli yn cau ddydd Sul (21 Awst) am 4pm er mwyn cyflawni gwaith trydan a fydd yn arbed costau ac yn lleihau ôl troed carbon y ganolfan.
Bydd y ganolfan yn agor fel arfer ddydd Llun gan gynnig yr amserlen lawn.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod trawsnewidyddion pŵer ar y cysylltiad â’r prif gyflenwad trydan yn y ganolfan. Bydd hyn yn arbed costau o ran cynnal y ganolfan ac yn lleihau ei hôl troed carbon ar yr un pryd.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden: “Bydd hyn yn achosi ychydig  o anghyfleuster yn unig i bobl sy'n defnyddio'r ganolfan ac mae’r gwaith yn cael ei wneud yn ystod amser lle bydd yn amharu cyn lleied â phosibl ar bobl.”
 “Mae'r gwaith yn rhan o ymgyrch y Cyngor i sicrhau ein bod yn lleihau ein hallyriadau o ran yr amgylchedd ac yn arbed costau i drethdalwyr ar yr un pryd.