Yn sgil effaith y dirwasgiad, mae swyddogion y Cyngor wedi adolygu'r ffordd y caiff gwasanaethau hamdden eu darparu yn Sir Gaerfyrddin.
Edrychwyd yn fanwl ar 22 o gyfleusterau, yn cynnwys clwb golff, parciau, canolfannau hamdden a neuaddau chwaraeon ysgolion, er mwyn gwella dulliau darparu a’u helpu i greu rhagor o incwm.
Ni fydd dim ohonynt yn cau. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r Cyngor yn gweithio i ddarparu'r gwasanaethau yn fwy effeithlon. Mewn rhai achosion, cafwyd hyd i bartneriaid a fydd yn darparu'r gwasanaethau.
Dywedodd y Cyng. Anthony Jones, Cadeirydd Pwyllgor Craffu - Adfywio a Hamdden y sir fod y cynllun gwaith a bennwyd yn ystod y flwyddyn wedi bod yn ddarn sylweddol o waith. Canmolodd y rheiny oedd wedi cyfrannu at y gwaith am ddiogelu dyfodol yr amrywiaeth eang o gyfleusterau hamdden yn y sir drwy fod yn ddyfeisgar a’u defnyddio i greu rhagor o incwm.
Mae'n dweud: "Byddai wedi bod yn amhosibl i ni barhau i ddarparu parciau, canolfannau a llawer o'r atyniadau sydd gennym heb wneud newidiadau sylweddol i ddatblygu'r cynllun gweithredu hwn i'n helpu i gadw a gwella'r hyn sydd gennym.
"Rwy'n hyderus y bydd cwsmeriaid yn gweld gwelliannau a fydd yn gwella'n ffordd o ddarparu gwasanaethau hamdden yn syfrdanol gan wella’r gobaith y bydd y cyfleusterau'n cael eu diogelu nawr ac i'r cenedlaethau sydd i ddod."
Mae'r Cyng. Jones wedi gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau a gymerwyd yn y Flwyddyn Newydd ac wedi gofyn i'r gwaith craffu barhau i adolygu perfformiad yr holl gyfleusterau hamdden.
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau'r argymhellion canlynol gan y Pwyllgor Craffu:
Clwb Golff y Garnant: Annog rheolaeth fasnachol ar y cyfleusterau hyn er mwyn diogelu eu dyfodol.
Canolfan Bowlio Dan Do Bro Myrddin: Parhau i drafod â'r cyrff sy'n bartneriaid er mwyn darparu gwerth gorau.
Canolfan Chwaraeon Glanymôr: Yr ysgol i reoli'r defnydd gan y gymuned.
Canolfan Chwaraeon Bryngwyn: Parhau i drafod rheoli'r safle a'r defnydd gan y gymuned gyda'r ysgol.
Harbwr Porth Tywyn: Parhau â'r trefniadau presennol ac ystyried dewisiadau gweithrediadol.
Canolfan Bowlio Dan Do Dinefwr: Parhau i weithio gyda'r pwyllgor rheoli gwirfoddol i ddatblygu'r cyfleusterau a gwella gwerth gorau.
Parc Gwledig Gelli Aur: Parhau â'r trefniadau presennol a'u hadolygu tra bydd y materion yn ymwneud â pherchenogaeth y parc yn cael eu datrys.
Llethr a Siop Sgïo Pen-bre, Parc Gwledig Pen-bre: Parhau â'r trefniadau presennol a thrafod y dewisiadau o ran y dyfodol gyda phartneriaid posibl.
Canolfan Hamdden Sanclêr: Parhau â'r trefniadau presennol.
Neuadd Chwaraeon Ysgol Coedcae: Parhau i drafod rheoli'r safle a'r defnydd gan y gymuned gyda'r ysgol.
Canolfan Chwaraeon Ysgol y Gwendraeth: Parhau â'r trefniadau presennol
Pwll Nofio Llanymddyfri: Parhau â'r trefniadau presennol.
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn: Parhau â'r trefniadau presennol.
Pwll Nofio Castell Newydd Emlyn: Parhau â'r trefniadau rheoli presennol gan bwyllgorau o wirfoddolwyr.
Parc Gwledig Pen-bre: Parhau â'r trefniadau presennol ac ymchwilio i ddulliau o fod yn fwy effeithlon.
Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli: Parhau â'r trefniadau presennol.
Y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd, Llanelli: Parhau â'r trefniadau presennol.
Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn: Parhau â'r trefniadau presennol.
Canolfan Hamdden Caerfyrddin;
Canolfan Hamdden Llanelli;
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman: Parhau â'r trefniadau presennol yn y tair canolfan ac ymchwilio i gynlluniau i greu rhagor o incwm.