Mae ymgyrch fawr wedi’i lansio yn Sir Gaerfyrddin i ymdrin â'r sbwriel gwm cnoi sydd ar ein strydoedd a'n palmentydd.
Yn ystod ymgyrch 2012, bydd awdurdodau lleol dethol yn cymryd rhan mewn ymgyrch hysbysebu newydd a fydd yn galw ar bawb i chwarae eu rhan i greu Prydain lanach a gwell cyn y Gêmau Olympaidd a'r Jiwbilî Ddiemwnt drwy roi eu gwm cnoi yn y bin. Mae Sir Gaerfyrddin yn un o 15 awdurdod lleol ledled Prydain sydd wedi addo cefnogi ymgyrch 2012 er mwyn helpu i gadw strydoedd Prydain yn glir o sbwriel gwm cnoi.
Caiff yr ymgyrch ei hariannu gan y Grŵp Gweithredu – Gwm Cnoi, sef menter ar y cyd rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), y diwydiant gwm cnoi a Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM).
Nod y Grŵp Gweithredu – Gwm Cnoi yw dod o hyd i ateb tymor hir i'r gwm cnoi sy'n cael ei waredu'n anghyfrifol.
Bydd chweched ymgyrch genedlaethol y grŵp yn cael ei chynnal ym mis Mawrth ac Ebrill ac yn ystod yr ymgyrch bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda chymunedau i annog pobl i fod yn gyfrifol am eu sbwriel a rhoi'r gwm cnoi y maent wedi'i ddefnyddio yn y bin.
Roedd arolwg gan y Grŵp Gweithredu – Gwm Cnoi, a gyhoeddwyd i gyd-ddigwydd â’r lansio, yn dangos bod 35% o bobl Cymru yn cyfaddef eu bod yn gollwng mân-sbwriel.
Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru yn cefnogi'r ymgyrch. Dywedodd: “Rydym ni eisiau i bobl yng Nghymru fwynhau pentrefi, trefi a dinasoedd sy'n lân ac yn daclus. Yn anffodus, mae sbwriel gwm cnoi yn cael effaith negyddol ar ansawdd amgylcheddau lleol. Mae'n llygru ein strydoedd ac yn gallu effeithio ar yr argraff y mae ymwelwyr yn ei chael o'n gwlad hardd.
Rwy'n dymuno pob lwc i'r Cyngor â'r ymgyrch hon i newid ymddygiad pobl er mwyn sicrhau ateb tymor hir i'r broblem gwm cnoi.”
Er 2005 mae'r Grŵp Gweithredu – Gwm Cnoi wedi cynnal ymgyrchoedd blynyddol sydd wedi arwain at ostyngiad o hyd at 91% yn y sbwriel gwm cnoi. Yn 2011, bu gostyngiad o 56% yn y sbwriel gwm cnoi ar ein strydoedd yn genedlaethol yn sgil yr ymgyrch, sy’n ffigur 6% yn well na'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Hon fydd y drydedd flwyddyn o’r bron i Gyngor Sir Caerfyrddin gymryd rhan yn yr ymgyrch hon.
Y gobaith yw y bydd y neges yn darbwyllo pobl i feddwl ddwywaith am ollwng eu gwm cnoi ar y llawr ac yn eu hannog i ddefnyddio’r biniau sydd ar gael. Mae’r Cyngor yn benderfynol o greu amgylchedd glanach i breswylwyr Sir Gaerfyrddin a’r rhai sy’n ymweld â’r sir ei fwynhau. Mae’r ymgyrch hon yn cyd-fynd â’n hymgyrch lanhau a gynhelir bob gwanwyn a Thaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd a fydd ar ei ffordd drwy’r ardal ddydd Sul, 27 Mai. Mae arnom eisiau sir y gallwn ymfalchïo ynddi.”
I gael gwybod rhagor am yr ymgyrch, cysylltwch â Simon Qasim, DEFRA drwy ffonio 020 7238 6844.