Bu i Gymdeithas Fowlio Merched Cymru wahodd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Pencampwriaethau Rhyngwladol a Phrydeinig dan 25 oed yn Llanelli.
Y Cynghorydd Siân Thomas a wnaeth fowlio'r bowliad cyntaf yn y digwyddiad ym Mharc Howard.
Roedd cystadleuwyr o Gymru, Lloegr, Iwerddon, a'r Alban yno. Hwn oedd y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal yn Llanelli.
