Blas Tywi
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Blas Tywi 
18/10/2010 

Ym mis Medi cynhaliwyd Gŵyl Fwyd Blas Tywi ar Fferm Dinefwr.
Hon oedd yr un gyntaf erioed a denodd tua 3,000 o ymwelwyr dros
ddau ddiwrnod.
Daeth cogyddion blaenllaw yno gan gynnwys Bryn Williams, Anthony Evans, Hazel Thomas, Daniel Williams a Lisa Fearn, i ddangos eu sgiliau coginio i gynulleidfa frwdfrydig iawn.
Yn yr ŵyl hefyd enillodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llandeilo y gystadleuaeth goginio “Ar y Fwydlen” gan guro Clwb Rygbi Llandeilo.
Roedd yno dros 30 o wahanol stondinau bwyd, diod a pherlysiau, oedd yn amrywio o gigoedd a physgod lleol i gwrw arbennig, teisennau a chawsiau.
Fel rhan o’r adloniant roedd yno sesiynau gwneud llusernau, gweithdai
coginio, arddangosfeydd gweithio â chlai, gwasgu afalau a dweud
storïau.
Cafodd y tyrfaoedd hefyd flas ar amryw o eitemau cerddorol gyda Cherddorfa Gymunedol Nantgaredig, Côr Ysgol Nantgaredig a Chôr Sainteilo. Bu myfyrwyr Coleg Sir Gâr wrthi hefyd a grŵp gwerin Jac-y-Do yn annog pawb i ddawnsio yn y Twmpath.
Mae’r wˆ yl yn rhan o gynllun Tywi Afon yr Oesoedd sydd wedi cael £557,378 gan y Cynllun Datblygu Gwledig.
I gael mwy o wybodaeth am Tywi Afon yr Oesoedd ewch i’r wefan www.tywiafonyroesoedd.org.uk