Band Eang
22/10/2010
CAFODD menter Band Eang gymunedol newydd sbon ei lansio yn Sir Gaerfyrddin sy’n ceisio lledaenu’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig.
Bydd Partneriaeth Band Eang Gymunedol Sir Gaerfyrddin yn darparu gwasanaeth cyflym ledled y sir, gan greu gwasanaeth o safon eithriadol mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw wasanaethau ar gael ynddynt ar hyn o bryd, a gwneud NGA (mynediad cenhedlaeth nesaf) ar gael ac yn fforddiadwy i leoedd difreintiedig ar draws y sir.
Bydd y rhwydwaith cymunedol yn cwmpasu Dyffryn Tywi ac yn darparu gwasanaeth i wardiau Cil-y-cwm, Llanymddyfri, Llangadog, Llandeilo, Manordeilo a Salem a Llanfihangel Aberbythych, yn ogystal â chysylltu rhannau o’r Cymoedd Gorllewinol mewn un prosiect Band Eang enfawr.
Yn y lle cyntaf, bydd dau fast yn cael eu codi, un yn Garn Big (Carmel)
a’r llall yng Nghrychan (Cynghordy) gan ddarparu gwasanaeth mewn mannau yn y sir lle mae’r ddarpariaeth yn wan neu lle nad oes darpariaeth o gwbl.
Wrth i’r galw am y rhwydwaith gynyddu, bydd rhagor o fastiau’n cael eu codi i gynnwys wardiau eraill fel Cynwyl Elfed, Cenarth a Llangeler.
Bydd y prosiect yn cydweithio â Chynllun Cymorth Band Eang Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cysylltiad cyflym a nifer o wasanaethau ffôn a chyfryngau eraill.
I ddod yn rhan o Bartneriaeth Band Eang Gymunedol Sir Gaerfyrddin bydd rhaid ichi roi eich manylion fel y gellir mapio eich lleoliad ac y gellir penderfynu ar y ffordd orau o’ch cysylltu â’r rhwydwaith.
Ewch i wefan CCBP yn www.ccbp.org.uk i gofrestru eich diddordeb.