English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Astudiaeth o'r ddarpariaeth hamdden yn ystod y dirwasgiad 
24/11/2010 

Yn sgil cynnal astudiaeth o effaith y dirwasgiad ar gyfleusterau hamdden Sir Gaerfyrddin, mae gan yr Awdurdod ganllaw ar gyfer y ddarpariaeth ledled y sir yn y dyfodol.
Rhoddwyd sylw manwl i gostau cynnal harbwr Porth Tywyn, sef yr unig harbwr sydd ar ôl yn Sir Gaerfyrddin, y cyfleusterau bowlio dan do, y llethr sgïo, yr holl ganolfannau hamdden, a phob cyfleuster arall.
Mae'r astudiaeth yn cyflwyno gwybodaeth gefndir amhrisiadwy i'r swyddogion a'r aelodau wrth iddynt gloriannu'r ffordd orau o ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau hyn yn y dyfodol, boed yn uniongyrchol gan yr awdurdod, boed ar y cyd ag eraill, neu mewn ffyrdd eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Hamdden, nad oedd dim penderfyniadau wedi eu gwneud hyd yn hyn. “Mae'n rhaid inni feddu ar yr holl wybodaeth angenrheidiol ynghylch refeniw er mwyn gwybod pa benderfyniadau anodd y mae'n bosibl y byddwn yn gorfod eu gwneud yn y cyfnod anodd hwn ac yn y dyfodol.
“Gallai hyn effeithio ar ein meddylfryd rheoli yn y dyfodol o ran popeth, gan gynnwys yr harbwr, y parciau gwledig a'r canolfannau hamdden.
Canmolodd y Cynghorydd Scourfield adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen: “Bellach mae gennym ni ganllaw, gyda'i holl ffaeleddau, y gallwn ni seilio ein penderfyniadau arno. Mae dyddiau'r cymorthdaliadau gormodol a chynnal colledion parhaus wedi darfod.”
Sefydlwyd y grŵp gan Bwyllgor Craffu - Adfywio a Hamdden y Cyngor Sir ym mis Ebrill er mwyn rhoi sylw i'r ffordd orau o oroesi effaith y blynyddoedd o hirlwm economaidd sy'n cael eu rhagweld. Heb gynllunio o'r fath yr oedd posibilrwydd y byddai'n rhaid i rai o'r cyfleusterau gael eu cau'n syth.
Bu'r grŵp yn adolygu costau gweithredu'r cyfleusterau hamdden rhwng 2007 a 2010 gan gymharu'r dangosyddion perfformiad â'r sector masnachol. Mae llawer o welliannau er mwyn lleihau costau wedi eu rhoi ar waith eisoes yn sgil yr astudiaeth fanwl.
Dan sylw yn yr adolygiad yr oedd cyfleusterau hamdden y sir yn Llanelli, Caerfyrddin, Dyffryn Aman, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr; y canolfannau chwaraeon yn y Gwendraeth, Bryngwyn, a Choedcae - sydd oll yn cael eu rheoli gan yr awdurdod ar ran yr ysgolion - a'r Strade, a ddychwelwyd i'r ysgol yn 2009; clybiau bowlio dan do Bro Myrddin a Dinefwr; pyllau nofio Llanymddyfri a Chastellnewydd Emlyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn; Parc Arfordirol y Mileniwm a'r Ganolfan Ddarganfod yn Llanelli; Harbwr Porth Tywyn;  Parc Gwledig Pen-bre, gan gynnwys Sgïo Pen-bre; Parciau Gwledig Gelli Aur a Llyn Llech Owain, a chyrsiau golff y Garnant ac Abaty'r Glyn. Ar hyn o bryd rheolir Abaty'r Glyn gan weithredwr masnachol.
Yr oedd y grŵp yn derbyn bod y dirwasgiad a'r tywydd gwael wedi effeithio ar y niferoedd oedd yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond effaith fwy arwyddocaol ar y costau oedd y cynnydd sydd wedi bod o ran y costau cyflenwi gan y cyfleustodau.
Bu gwelliannau o ran costau cynnal rhai o'r cyfleusterau drwy ad-drefnu'r trefniadau staffio a lleihau'r oriau agor er mwyn cyfateb i'r galw.
Hefyd nododd y grŵp pe na byddai safleoedd yr ysgolion yn cael cymhorthdal, byddai eu costau cynnal yn cymharu'n ffafriol â'r sector preifat.
Dywedodd y grŵp y byddai'n ystyried lleoliad a chyd-destun pob cyfleuster yn unigol - a hynny oherwydd bod y sir yn cwmpasu ardaloedd gwledig a threfol ac oherwydd bod eu hanghenion yn amrywio - wrth wneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y portffolio cyfleusterau.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Jones,  Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Hamdden: “Mae'r swyddogion wedi gwneud gwaith aruthrol, sy'n dangos nid yn unig pa mor dda yw'r rhwydwaith cyfleusterau hamdden ledled y sir ond hefyd bod y cyfleusterau hynny'n cael eu cynnal yn dda. Mae gwelliannau wedi eu gwneud o ran trefniadau cynnal rhai ohonyn nhw yn sgil yr astudiaeth, ac felly mae eu gobeithion nhw o ran goroesi a llewyrchu yn y dyfodol yn well.
“Bellach mae gennym ganllaw a fydd yn sail i'r llu penderfyniadau anodd y mae'n bosibl y byddwn yn gorfod eu gwneud, gan roi ystyriaeth i gyflwyno trefniadau cynnal gan y gymuned, gan y sector gwirfoddol neu gan y sector preifat yn achos rhai o'n cyfleusterau.
“Bydd yn rhaid inni ddefnyddio'r lle sydd ar gael yn well, bydd yn rhaid inni rannu rhai cyfleusterau mewn modd mwy darbodus, a, heb fod yn blwyfol, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.
“Bydd hyn yn fwy perthnasol byth yn achos cyfleusterau lle mae'r ffigyrau defnyddio yn is ac sydd â chostau cynnal mawr.”