Arddangosfa Llanymddyfri a Llangadog
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Arddangosfa Llanymddyfri a Llangadog 
06/12/2010 

Mae arddangosfa wedi'i chynnal yn Llangadog i ddathlu'r hyn mae Pwyllgor Partneriaeth Treftadaeth – Trefwedd Llanymddyfri a Llangadog wedi'i gyflawni dros 10 mlynedd.
Bwriad yr arddangosfa yng Nghanolfan Gymunedol Llangadog ddydd Mercher diwethaf oedd adeiladu ar y momentwm a welodd y ddwy dref yn cael eu gweddnewid dros y degawd ers cyflwyno'r Fenter Treftadaeth – Trefwedd. 
Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Mr Dan Clayton Jones, Is-gadeirydd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri a Chadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd aelodau o'r Bartneriaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Caerfyrddin, CADW, Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cadwraeth a phroffesiynol eraill yno i gynnig eu harbenigedd a'u cyngor ynghylch arferion da o ran cynnal a chadw eiddo.
Rhoddwyd cyngor ynghylch y camau ymarferol y gall perchenogion eu cymryd i gadw eu heiddo mewn cyflwr da ac i atal yr hyn a allai achosi dirywiad yn y dyfodol. Cynhaliwyd yr arddangosfa'r un pryd â'r Wythnos Cynnal a Chadw Genedlaethol, pryd yr anogwyd perchenogion tai ledled y wlad i ystyried cymryd mesurau syml i ddiogelu eu heiddo unigol er mwyn atal difrod yn y tymor hir.
Dywedodd Mr Eifion Bowen, y Pennaeth Cynllunio: “Mae'r prosiect wedi bod yn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth ac mae wedi cyflawni ystod o amcanion gan gynnwys dod â budd economaidd, gwelliannau amgylcheddol a dealltwriaeth o'r amgylchedd hanesyddol.
“Roedd yr arddangosfa yn gyfle i gydnabod cyfraniad pawb i'r prosiect a'r gwersi y gellid eu rhoi ar waith yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Bu'r prosiect yn llwyddiant ysgubol.  Rydym wedi gallu cadw cymeriad y ddwy dref farchnad wledig a hanesyddol bwysig hyn.
“Ar ôl sgwrsio â pherchenogion busnesau sydd wedi cael budd o'r grantiau, rwy'n gwybod cymaint mae'r prosiect hwn wedi'i olygu iddyn nhw.  Mae wedi bod yn fodd i lawer ohonynt gadw talwynebau rhai o adeiladau mwyaf hanesyddol y sir.”
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri : “Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri'n falch o fod wedi chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo i adfywio'r ddwy dref Gymreig wledig a ffyniannus hyn. Rydym wedi buddsoddi mwy na £1.3 miliwn dros ddau gyfnod y cynllun hwn er mwyn cynorthwyo cynlluniau'r Cyngor i weddnewid y trefi.
“Mae cyfanswm o £2.7 miliwn wedi'i wario yn y ddwy dref gan wneud gwelliannau ac atgyweiriadau hanfodol i amrywiaeth o adeiladau hanesyddol – eiddo masnachol, preswyl a chymunedol. Mae hyn wedi annog busnesau lleol i ddychwelyd ac wedi ailennyn ymdeimlad o ymfalchïo ymysg trigolion y ddwy dref a thrwy hynny, mae'n denu rhagor o fuddsoddi.