Arbed £1.7 miliwn o ran swyddi rheolwyr
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/8/2011
Arbed £1.7 miliwn o ran swyddi rheolwyr 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi arbed £1.7 miliwn drwy leihau nifer yr uwch-reolwyr a gyflogir ganddo.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, dilëwyd 25 o swyddi gan gynnwys rhai Penaethiaid Gwasanaeth ac uwch-reolwyr.
Cafodd yr arbedion eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau er mwyn helpu i gadw lefelau treth y Cyngor i lawr.
Mae rhai swyddi gwag heb eu llenwi ac mae swyddi eraill yn cael eu rhannu â chyrff sy'n bartneriaid.
Cafodd y gwaith ei rannu ymysg gweithwyr eraill er mwyn sicrhau nad oedd bwlch yn y gwasanaeth.
Dywedodd Mark James, y Prif Weithredwr: "Buom yn gweithio'n galed i dorri ar gostau lle bynnag y bo modd er mwyn diogelu gwasanaethau llinell flaen hanfodol a chadw'r codiadau yn nhreth y cyngor cyn ised â phosibl.  "Rydym ni wedi llwyddo i dorri ar gostau uwch-reolwyr yn sylweddol drwy ail-ddyrannu cyfrifoldebau a chydweithio'n agos â chyrff eraill fel yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol."
Hefyd, mae'r Cyngor wedi rhoi'r gorau i recriwtio am y tro ac eithrio yn achos swyddi hanfodol na ellir eu llenwi yn fewnol.
Rhagwelir y gellir arbed miliynau o bunnoedd ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf yn sgil y camau hyn.
Mae Sir Gaerfyrddin, fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru, yn wynebu her aruthrol o ran mantoli'r cyfrifon ac mae angen cwtogi tua £25 miliwn ar y gyllideb.
Dywedodd y Cyng. Wyn Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: "Mae'n gyfnod anodd i ni ar hyn o bryd ond mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa well na llawer i dynnu drwyddi. O ganlyniad i reolaeth ariannol gadarn, arbedion effeithlonrwydd sylweddau a newidiadau i'r modd y darparwn rai gwasanaeth rydym ni'n dygymod â'r galwadau presennol.  Rydym yn hyderus y byddwn yn dod drwyddi yn gorff mwy pwrpasol, effeithlon ac effeithiol."