Anrheg Nadolig gan y Cyngor - Parcio am Ddim
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Anrheg Nadolig gan y Cyngor - Parcio am Ddim 
26/10/2010 

NI fydd sŵn ceiniogau'n tincial i'w glywed ym meysydd parcio Sir Gaerfyrddin y Nadolig hwn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu rhoi anrheg Nadolig gynnar i bobl drwy roi hawl iddynt barcio am ddim.
Mae Bwrdd Gweithredol y sir wedi argymell caniatáu parcio am ddim am bythefnos cyn y Nadodlig, sef o Ragfyr 10fed tan Ragfyr 24ain.
Bwriedir gwneud hyn er mwyn annog rhagor o siopwyr i ymweld â chanol trefi ac i gefnogi busnesau lleol.
Byddai parcio am ddim o 10am ymlaen bob dydd, er mwyn atal cymudwyr rhag defnyddio'r holl lefydd.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth, y byddai'r cynllun hwn yn costio tua £70,000 i'r awdurdod o ran colli incwm, ond byddai'n anrheg Nadolig i siopwyr ac yn fodd i gefnogi masnachwyr lleol.
Meddai'r Cynghorydd Hughes: “Mae'r Bwrdd Gweithredol yn awyddus i ymateb i bryderon y gymuned, yn enwedig yn y cyfnod ariannol anodd hwn.
“Rydym wedi gofyn am i adroddiad gael ei gyflwyno inni yn ein cyfarfod nesaf ynghylch parcio am ddim yn holl feysydd parcio y Cyngor yn ystod y pythefnos cyn y Nadolig.
“Mae'r aelodau'n cydnabod bod y bywiogrwydd sydd yng  nghanol ein trefi yn bwysig i'r economi leol, ac rydym am hybu a chefnogi hynny."
Hefyd mae'r awdurdod yn cynorthwyo canol trefi drwy fentrau eraill. Ceir gwasanaeth parcio a theithio am ddim yng Nghaerfyrddin, parcio am ddim am hyd at bedair awr yn Llanelli ar ddydd Sadwrn, a thaliadau is am barcio arhosiad byr mewn trefi gwledig.
Yn ystod y cyfnod arfaethedig adeg y Nadolig pan fydd parcio am ddim, bydd wardeiniaid traffig yn dal i fod ar ddyletswydd i sicrhau bod y parcio'n cael ei reoli ac i gymell pobl i beidio â pharcio ar y stryd.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol wneud penderfyniad yn ei gylch ddydd Llun, Tachwedd 1af.