Bydd cynllun grant uchelgeisiol newydd gwerth £1.5 miliwn i helpu ffermwyr i arallgyfeirio a chadw pobl ifanc yn y diwydiant ffermio yn cael ei lansio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yr haf hwn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi denu cyllid grant i gynnig cymorth i ffermwyr sydd eisiau datblygu mentrau eraill i ychwanegu at eu hincwm.
Nod cynllun grant Helpu Ffermwyr i Arallgyfeirio yw cynnal a chynyddu incwm aelwydydd sy’n ffermio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, drwy ddarparu’r cyfalaf sydd ei angen i alluogi teuluoedd sy’n ffermio i arallgyfeirio i weithgarwch anamaethyddol, a chadw pobl ifanc yn y diwydiant ffermio drwy eu helpu i ddatblygu ffynonellau incwm eraill a chyfleoedd gwaith eraill.
Mae’r cynllun wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Bydd y gronfa yn rhoi cymorth ariannol i aelwydydd sy’n ffermio ac sydd eisiau arallgyfeirio i weithgarwch anamaethyddol. Bydd grantiau cyfalaf gwerth 50% o gyfanswm costau’r prosiect ar gael i addasu adeiladau diangen a phrynu offer cyfalaf.
Bydd y Grant Addasiadau Gwledig yn cynnig cymorth o rhwng £10,000 a £50,000 i addasu adeiladau fferm diangen er mwyn galluogi ffermwyr i fentro i gyfleoedd busnes anamaethyddol newydd, megis gweithgareddau gwasanaeth, gan gynnwys cyfleusterau addysg, gofal plant a sgiliau cymdeithasol, gweithgareddau awyr agored a gwasanaethau atodol sy’n gysylltiedig â’r prif atyniadau i dwristiaid, rhentu i fusnesau a siopau fferm.
Bydd grantiau Offer Cyfalaf yn cynnig cymorth o rhwng £1,000 a £10,000 i helpu ffermwyr i brynu offer er mwyn arallgyfeirio.
Nod y cynllun yw diogelu swyddi mewn teuluoedd sy’n ffermio, gwella adeiladau fferm diangen a chadw pobl ifanc yn y diwydiant ffermio, gan ganolbwyntio ar werth am arian a materion amgylcheddol.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bod ymgeiswyr wedi’u lleoli yn yr ardaloedd canlynol: Abergwili, Gogledd Tref Caerfyrddin, De Tref Caerfyrddin, Gorllewin Tref Caerfyrddin, Cenarth, Cil-y-cwm, Cynwyl Elfed, Cynwyl Gaeo, Gorslas, Tref Lacharn, Llanboidy, Llanddarog, Llandeilo, Llanymddyfri, Llandybïe, Llanegwad, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel-ar-Arth, Llangadog, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llansteffan, Llanybydder, Manordeilo a Salem, Sanclêr, Llanismel, Trelech a Hendy-gwyn ar Daf.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros adfywio a hamdden: “Rwy’n croesawu cynllun grant Helpu Ffermwyr i Arallgyfeirio. Mae’n annog teuluoedd sy’n ffermio i edrych y tu hwnt i amaethyddiaeth draddodiadol ac ar yr hyn y gallant ei wneud i arallgyfeirio yn y cyfnod anodd hwn.
“Rwy’n gobeithio y bydd ffermwyr yn eistedd i lawr gyda’u teuluoedd i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud i ddiogelu eu dyfodol