Adolygiad o'r Clybiau Cinio yn llwyddiant mawr
18/11/2010
Ystyrir bod yr adolygiad o'r clybiau cinio a ddarperir yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Mae Pwyllgor Craffu – Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor Sir wedi clywed bod yr holl glybiau cinio a oedd gynt dan reolaeth yr awdurdod lleol yn awr yn cael eu cynnal yn llwyddiannus gan grŵp gwirfoddol, grŵp preifat neu grŵp o'r trydydd sector.
Golyga nad yw pobl hŷn yn cael eu cyfyngu mwyach gan feini prawf cymhwyso yr oedd yn rhaid i'r Cyngor eu cael i reoli pwy gâi ddefnyddio'r clybiau a bellach mae'r clybiau'n gallu ehangu a chynnig gwasanaethau gwell i'w haelodau.
Daeth manteision annisgwyl yn sgil hyn. Mae'r adnoddau trafnidiaeth a ddefnyddid gynt ar gyfer y clybiau cinio ar gael bellach i gynorthwyo Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gludo pobl adref o'r ysbyty ac i gludo cleifion i'w triniaethau dialysis arennol – gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan y cleifion a staff y bwrdd iechyd.
Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei sefydlu yn 2008/09 gan y Pwyllgor Craffu – Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adolygu'r clybiau cinio a gâi eu darparu. Nod yr adolygu oedd mapio'r ddarpariaeth, asesu ei safon, a'r gwerth am arian a gynigiai, er mwyn canfod yr arferion gorau ac ystyried dulliau amgen o ddarparu.
Cafodd tystiolaeth gan amrywiaeth eang o gyrff ei chyflwyno i'r grŵp, a siaradodd aelodau'r grŵp â'r defnyddwyr a'r darparwyr.
Yn y pen draw, argymhellodd y Grŵp y dylai'r awdurdod lleol drosglwyddo'r gwaith o reoli'r clybiau cinio i ddarparwyr gwirfoddol, preifat ac o'r trydydd sector.
Sefydlwyd cronfa fach i gynorthwyo'r rhai a oedd yn sefydlu clybiau cinio, a threfnwyd i staff fod ar gael i gynorthwyo'r darparwyr newydd.
Yn ogystal, buont yn gweithio gyda'r sector annibynnol a gwirfoddol i roi cyngor, annog rhagor o ddefnydd o wirfoddolwyr, a chynyddu ymwybyddiaeth o ffynonellau cyllido.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn falch o allu dweud bod yr adolygiad wedi bod yn llwyddiant drwyddi draw, ac na fu unrhyw darfu ar y gwasanaeth i glybiau cinio.
“Mae'r clybiau, sydd bellach yn nwylo abl y sector annibynnol a phreifat, yn gallu ehangu'r ddarpariaeth, gwahodd rhagor o aelodau i ymuno, a datblygu'n unol ag anghenion grwpiau unigol.
“I gychwyn, nid oedd fawr o groeso gan rai i'r adolygiad, ac ar y pryd yn y wasg roedd y penawdau'n sôn am golli clybiau cinio.
"Mae'n dda gennyf ddweud nad yw hynny wedi digwydd, ac mae hyn yn profi, pan fydd cynlluniau priodol a reolir yn dda yn cael eu creu a'u rhoi ar waith yn effeithiol, fod y Cyngor yn gallu newid pethau er budd y gymuned.
“Mae trosglwyddo'r clybiau cinio wedi ein galluogi hefyd i ddefnyddio adnoddau at ddibenion eraill i ddarparu'r gwasanaethau gofal pennaf a'n cyfrifoldebau statudol.”
Gall unrhyw rai sydd â diddordeb mewn sefydlu clwb cinio yn eu hardal, ac sydd am gael cymorth i wneud hynny, ffonio 01267 234567 i gael rhagor o wybodaeth.