Cadeirydd Newydd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cadeirydd Newydd 
17/05/2011 

Mae cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ymlaen i gynrychioli'r sir ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cafodd y Cynghorydd Ivor Jackson ei eni a'i fagu yn Llanymddyfri ac mae wedi byw yn y dref ar hyd ei oes. Cyn ymddeol bu'n gweithio i'r Comisiwn Coedwigaeth am 45 mlynedd. Gweithiodd ei wraig Mary, Cymar y Cadeirydd, fel nyrs am 40 mlynedd. Mae ganddynt ferch o’r enw Angela sydd yn rheolwr nyrsio yng Nghwmbrân.

Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2004 ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Llanymddyfri lle bu'n Faer am dair blynedd.
Mae’r Cynghorydd Jackson wedi bod yn aelod o Glwb Rygbi Llanymddyfri ers blynyddoedd lawer ac yn Warden y Rheithor yn Eglwys Llandingat. Mrs Jackson yw cadeirydd y Clwb Cyfeillgarwch yn Llanymddyfri ac mae’n rhedeg y Clwb Cinio yn Dolau Bran ddwywaith yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Jackson: "Rydym yn ceisio cefnogi rhan fwyaf o bethau sy'n mynd ymlaen yn Llanymddyfri ac rydym yn weithgar iawn yn y gymuned leol."

Elusennau y cadeirydd ar gyfer y flwyddyn hon fydd Nyrsys Macmillan, Cymdeithas Alzheimer a Plant Dewi.

Capsiwn: Y Cadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin y Cynghorydd Ivor Jackson.

Nodyn i'r wasg: am fwy o wybodaeth cysylltwch â Roger Butler, Swyddog y Wasg, drwy ffonio 01267 224114.