English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/1/2010
Gweithgarwch Corfforol 

Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol ar gyfer bod yn iach.  Trwy ddilyn ffordd weithgar o fyw gall hynny eich helpu i reoli'ch pwysau, teimlo'n dda ac atal rhai afiechydon. Pan fyddwch yn meddwl am wneud ymarfer corff, ceisiwch ddewis rhywbeth rydych chi'n mwynhau, fel cerdded, garddio, beicio, dawnsio neu chwaraeon. Os rydych yn mwynhau yna byddwch yn fwy tebygol o ddal ati.

Beth yw manteision gwneud gweithgarwch corfforol? 

Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn gallu helpu pobl i deimlo'n wll mewn sawl ffordd.

Mae'n gallu

eich helpu i golli pwysau
eich helpu i wella'ch iechyd yn gyffredinol
helpu i leihau straen ac iselder gan eich helpu i ymlacio a chysgu'n well 
gwella symudedd, cydbwysedd a chryfder cyhyrau 
eich gwneud chi deimlo'n well amdanoch eich hun

atal rhai afiechydon

lleihau risg clefyd y galon, diabetes math 2, osteoporosis, gordewdra a chael anaf o syrthio
eich helpu chi fwynhau gweithgareddau gyda'ch teulu a'ch ffrindiau
bod yn gyfellgar a chymdeithasol
bod am ddim

Fain o weithgarwch corfforol ddylwn i wneud?

Mae'r arbenigwyr yn argymell y dylai'r oedolyn cyffredin geisio gwneud mwy yn raddol gan anelu at o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol bob dydd am bum diwrnod yr wythnos.  Gallwch ei rannu'n sesiynau llai, e.e 3 x 10 munud neu 2 x 15 munud.

Mae pawb yn wahanol a dylech wneud ymarfer corff ar eich cyflymder eich hun ac ar lefel sy'n addas i chi.  Ond er mwyn iddo fod o fudd i'ch iechyd dylech deimlo eich bod yn anadlu ychydig yn gyflymach ac yn teimlo'n dwymach nag arfer.

Mae llawer o ffyrdd gwahanol o gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich bywyd.  Dyma rai syniadau er mwyn ichi ddechrau arni:

defnyddiwch y grisiau yn lle'r lifft
parciwch ymhellach yn y maes parcio
cerddwch yn lle gyrru os yw'r daith yn un fer
ewch â'r ci am dro yn hytrach na'i ollwng allan yn unig
yn lle rhoi glawad ffôn neu anfon e-bost at gydweithiwr, cerddwch at eu desg
cerddwch eich plentyn i'r ysgol
newidiwch y sianel teledu heb ddefnyddio'r teclyn rheoli o bell
anelwch i ddringo'r girisau 10 gwaith bob dydd
ceisiwch osgoi eistedd am gynodau hir - codwch a cherddwch o gwmpas yn rheolaidd

Pam fyddwch yn barod gallwch ddechrau cynnwys gweithgareddau ychwanegol yn eich diwrnod megis:

Cerdded - mae hwn yn weithgaredd mor hwylus.  Dewch a â grŵp o ffrindiau at ei gilydd a threfnwch daith gerdded.

Nofio – mae hwn yn ffordd ardderchog i gadw'n sionc.  Mae'r dŵr yn cynnal eich pwysau felly mae'n ddewis gwych os ydych yn rhy drwm, yn dioddef o boen cefn, gwynegon neu os oes gennych anabledd.
Beicio -  mae beicio'n lleihau'r risg o anhwylderau difrifol megis clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, a'r math mwyaf cyffredin o ddiabetes ac mae pobl o bob oedran a phob lefel ffitrwydd yn gallu beicio, yn araf  a chan bwyll os bydd angen.

Mae digonedd o ddewisiadau!