English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/1/2010
Dibyniaeth a Cyffuriau 

 

Ystyr dibyniaeth yw peidio â chael rheolaeth dros wneud, cymryd neu ddefnyddio rhywbeth, i'r pwynt lle gall fod yn niweidiol i chi. 

Mae bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau yn enghreifftiau cyffredin o ddibyniaeth, ond mae'n bosibl mynd yn ddibynnol ar unrhyw beth - o gamblo i siocled. Beth bynnag yw'r ddibyniaeth, ni all y person reoli sut mae'n defnyddio'r sylwedd, a gall fynd yn ddibynnol arno i ddygymod â bywyd pob dydd.

Nid oes unrhyw reswm penodol pam mae dibyniaeth yn datblygu. Mae bod yn gaeth i sylweddau fel alcohol, cyffuriau a nicotin yn newid y ffordd rydym yn teimlo yn feddyliol ac yn gorfforol, a bydd rhai pobl yn mwynhau hyn ac yn teimlo awydd cryf i'w ailadrodd. Gall gweithgareddau fel gamblo wneud i berson deimlo'n 'orfoleddus' ar ôl ennill, sy'n cael ei ddilyn gan awydd i ailadrodd y llwyddiant. Yn y pen draw gall ddatblygu'n arfer na ellir ei dorri am ei fod wedi mynd yn rhan reolaidd o fywyd.

Fel arfer, mae bod yn gaeth i sylwedd yn golygu eich bod yn ddibynnol arno i ryw raddau. Po amlaf y byddwch chi'n ei ddefnyddio, y mwyaf goddefgar y daw'r corff, nes y bydd angen ichi ddefnyddio mwy o'r sylwedd yn fwy rheolaidd i gael yr un effaith.

Gall plant sy'n cael eu magu mewn cartrefi lle y camddefnyddir alcohol neu gyffuriau fod yn fwy tebygol o fynd yn ddibynnol ar rywbeth.  Gall straen, pwysau emosiynol, diffyg hunan-barch neu bwysau gan gyfoedion achosi i ddibyniaeth ddatblygu.  Mae'r mwyafrif o bobl yn gallu rhoi eu heglurhad nhw ynghylch pam yr aethant yn ddibynnol ar rywbeth, ond ambell waith ni ellir byth wybod na deall y rheswm.  I gael help ar gyfer eich dibyniaeth dylech gysylltu â'ch Meddyg. 

Dolenni cyswllt perthnasol

http://www.beatingaddictions.co.uk

Camddefnyddio cyffuriau neu sylweddau

Mae camddefnyddio cyffuriau a sylweddau yn bwnc brawychus ac efallai eich bod chi'n poeni am eich defnydd chi eich hunan neu rywun agos atoch.

Mae camddefnyddio cyffuriau a sylweddau yn cyfeirio at ddefnyddio cyffur neu sylwedd yn fynych at ddibenion heblaw'r rhai y bwriadwyd ef, neu ddefnyddio llawer gormod o gyffur neu sylwedd.

Gellir camddefnyddio pob math o wahanol gyffuriau, gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon (fel heroin neu ganabis), moddion ar bresgripsiwn (fel tawelyddion neu gyffuriau lleddfu poen), a moddion eraill y gellir eu prynu o'r archfarchnad (fel moddion peswch neu foddion llysieuol).

Gall y defnydd o gyffuriau gan berson fynd yn afreolus, neu ddechrau eu rheoli nhw.  Hyd yn oed pan fydd y defnydd o gyffuriau yn arwain at broblemau corfforol a meddyliol difrifol, mae’n bosibl na fydd y person sy’n eu defnyddio eisiau stopio neu’n gallu stopio.

Gall symptomau camddefnyddio cyffuriau a sylweddau gynnwys:

Cynnydd mewn ymddygiad ymosodol a hwyliau oriog
Cylch o gynnydd mewn egni, aflonyddwch, a methu cysgu
Cylch o gysgu gormodol
Symidiadau neu leferydd neu amser ymateb afresymol o araf, dryswch a cholli cyswllt â'r amgylchedd
Cylch o fod yn anarferol o siaradus, gobeithiol a hwyliog, gan ymddangos fel petai ganddynt egni diddiwedd
Colli neu ennill pwysau'n sydyn
teimlo'n drist ac yn isel

Y cam cyntaf a mwyaf anodd i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau yw cydnabod bod ganddynt broblem, ac yna cyfaddef bod arnynt angen help i ymdrin â'r broblem.

Dylech weld eich Meddyg cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli bod gennych broblem cyffuriau. Gall roi cyngor a chymorth ichi, a'ch cyfeirio at driniaeth arbenigol. Byddwch yn agored â'ch Meddyg ynghylch eich defnydd o gyffuriau, a'ch rhesymau dros ddymuno stopio. Hefyd mae'n bosib y byddwch yn dymuno dweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau agosaf am eich penderfyniad, a gofyn iddynt am eu cefnogaeth.

Dyma wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin:

Tîm Camddefnyddio Sylweddau Cyngor Sir Caerfyrddin
3 Rhodfa’r Goron, Llanelli, SA15 3UT                                                         01554 779649

Tîm gwaith cymdeithasol statudol yw hwn sy'n helpu pobl sy'n cael problemau fel canlyniad i'w defnydd o gyffuriau neu alcohol.  Gall y tîm gynnig cymorth i bobl 18 oed a hŷn sy’n preswylio’n barhaol neu sydd wedi’u cofrestru’n ddigartref yn Sir Gaerfyrddin, ac sy’n cydnabod bod eu defnydd o gyffuriau neu alcohol yn broblem. 

Prism
Tŷ Fforest, Heol y Bragdy, Caerfyrddin, SA31 1TF
01267 231634

Asiantaeth arbenigol yn y gymuned yw Prism sy'n cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth am ddim i bobl sydd â phroblemau sy'n gysylltiedig â'u defnydd nhw neu ddefnydd rhywun arall o alcohol.

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
Penlan, Heol Penlan, Caerfyrddin, SA31 1TR
01267 244442

Gwasanaeth Cyffuriau Turning Point
Uned 3, 2 Heol yr Orsaf, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 1AB
01554 746176

Mae'r prosiect hwn yn rhoi cymorth i bobl sy'n gwella ar ôl dioddef yn sgil camddefnyddio alcohol i ddatblygu sgiliau byw er mwyn cael swydd, hyfforddiant ac ailgysylltu â'u cymuned.  Mae Turning Point yn ceisio hyrwyddo a sicrhau'r gorau o ran iechyd a lles unigolion a chymunedau sy'n byw gydag ac sy'n cael eu niweidio gan alcohol a chyffuriau eraill.

Chooselife
Canolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2NE
01554 771122

Nod Chooselife yw nid yn unig helpu'r rhai sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau ond hefyd cynnig dewis arall cadarnhaol i'r rhai a allai gael problem camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol.

Gwasanaeth Cymorth i'r Teulu – Gwasanaeth ar gyfer ffrindiau teulu sy'n pryderu am eu defnydd o gyffuriau neu alcohol.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch Camddefnyddio Sylweddau;

www.drugscope.org.uk
www.prism-online.info 
www.talktofrank.com