Mae 2.9 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru a phob blwyddyn mae rhyw 1,100 yn marw o ganlyniad i anafiadau - ac mae llawer o'r rhain o ganlyniad uniongyrchol i ddamwain yn y cartref.
Mae yna bethau ym mhob cartref sy'n gallu bod yn beryglus megis dŵr poeth, cemegion, grisiau, lle tân, matsis, alcohol a phethau miniog fel cyllyll a sisyrnau.
Er mwyn osgoi damweiniau ac anafiadau yn y cartref dilynwch yr awgrymiadau isod:
 |
Gallwch osgoi baglu, llithro a syrthio drwy sicrhau bod digon o olau yn y cyntedd a'r grisiau a'u bod yn cael eu cadw'n glir a thaclus. |
 |
Gallwch leihau achosion o faglu, llithro a syrthio drwy sicrhau bod unrhyw beth a gollir yn cael ei lanhau'n gyflym. |
 |
Er mwyn lleihau'r pergyl o syrthio o ffenestri, gosodwch a defnyddiwch fachau cyfyngu ar bob ffenestr lan grisiau a pheidiwch â rhoi unrhyw gelfi yn ymyl ffenestr. |
 |
Newidiwch fylbiau golau'n ddiogel, heb unrhyw berygl o syrthio drwy ddefnyddio stôl step. Peidiwch â dringo ar hen gadeiriau i wneud hyn. |
 |
Cadwch yn ddiogel rhag tân drwy brofi larymau mwg bob wythnos a gwneud yn siŵr fod pob aelod o'r teulu'n gwybod sut i ddianc os digwydd tân. |
 |
Gallwch osgoi'r risg o dân drwy ddefnyddio gardiau gyda phob tân a gwresogydd a pheidio â rhoi dillad, celfi na llenni yn ymyl unrhyw ffynhonnell gwres, gan gynnwys canhwyllau. |
 |
Gallwch leihau'r posibilrwydd o dân yn y tŷ a gwenwyno gan garbon monocsid o ffliwiau neu offer diffygiol drwy gynnal gwasanaeth proffesiynol ar offer gwresogi nwy, olew neu danwydd solet unwaith y flwyddyn. |
 |
Gallwch leihau'r risg o dân trydanol a sioc drydanol drwy beidio byth â defnyddio offer os yw'r plygiau wedi cracio neu'r ceblau wedi treulio. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan â gormod o offer gwahanol. |
 |
Peidiwch â mentro cael sioc drydanol drwy fynd ag offer trydanol i mewn i'r ystafell ymolchi. Mae dŵr yn dda am ddargludo trydan felly peidiwch byth â chyffwrdd offer trydanol os yw eich dwylo'n wlyb. |
 |
Gallwch osgoi llosgiadau a sgaldiadau drwy ddefnyddio'r cylchoedd ôl ar y cwcer neu'r cylch trydan yn gyntaf, a gosod yr handlenni yn y fath fodd fel na ellir eu tynnu drosodd. Cadwch ddiodydd poeth o gyrraedd plant. |
 |
Gallwch osgoi sgaldio wrth gael bath (yn enwedig plant) drwy redeg y dŵr oer yn gyntaf a phrofi tymheredd y dŵr yn ofalus. Dylid sicrhau bod plant byth yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain. |
 |
Gallwch osgoi gwenwyno neu losgiadau cemegol drwy storio moddion a chemegion tŷ o'r golwg ac o gyrraedd plant, gorau oll ar silff uchel mewn cwpwrdd cegin wedi'i gloi. |
Os digwydd damwain neu anaf yn y cartref dylch ffonio eich Meddyg neu Galw Iechyd Cymru.