English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/1/2010
Smygu 

Nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau i smygu 

Mae'r mwyafrif ohonom yn gwybod bod smygu'n gallu niweidio eich iechyd. Ond wrth inni heneiddio mae'r neges iechyd bwysig hon yn gallu ymddangos yn llai perthnasol.

Er hynny, mae'r peryglon iechyd a achosir gan smygu yr un mor berthnasol i bobl hŷn. Rhoi'r gorau i smygu yw'r peth mwyaf y gall smygwyr ei wneud i wella'u hiechyd.

Manteision rhoi'r gorau i smygu

P'un a ydych yn smygu sigarennau, pib, neu sigarau, rhoi'r gorau iddi yw un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud i wella'ch iechyd ar unwaith ac yn y tymor hir.  Os byddwch yn rhoi'r gorau i smygu bydd y corff yn dechrau gwella'r niwed bron ar unwaith.

Lleihau eich risg o anabledd drwy glefydau'r galon a'r ysgyfaint sy'n gysylltiedig â smygu, er enghraifft broncitis ac emffysema.
Gwella eich gallu i flasu ac arogli. Efallai bydd hyn yn eich annog i fod â mwy o ddiddordeb yn y bwyd yr ydych yn ei fwyta.
Efallai bydd yn lleihau'r risg o gael osteoporosis‚ cyflwr lle mae'r esgyrn yn mynd yn frau ac yn tueddu i dorri.
Os oes gennych wyrion ac wyresau, byddwch yn eu hamddiffyn nhw rhag smygu goddefol. Smygu goddefol yw anadlu mwg rhywun arall.

How do I stop smoking?

Although it may seem like a good idea to cut down and then stop‚ this is actually very difficult to do in practice.

Ceisiwch help proffesiynol... ffoniwch y Llinell Gymorth Smygwyr ar y llinell rhadffôn 0800 1690 169 i gael gwybodaeth a chyngor.
Paratowch eich hun yn feddyliol... gwnewch restr o'r rhesymau pam yr hoffech roi'r gorau i smygu. Gallai hyn eich helpu drwy'r adegau mwyaf anodd.
Meddyliwch am yr arian... erbyn hyn mae sigarennau prif frand yn costio hyd at £5.00 am becyn o 20.
Dewiswch ddyddiad... mae rhai pobl yn gwneud addewid Blwyddyn Newydd ac mae eraill yn dewis eu pen-blwydd neu ddyddiad cofiadwy arall.
Wyliwch rhag llithro'n ôl... bydd angen ichi fod ar eich gwyliadwriaeth‚ yn enwedig yn ystod y dyddiau neu'r wythnosau cyntaf. “Fe gymeraf un, does dim niwed yn hynny” sy'n eich dechrau lawr y llethr llithrig i ddal ati i smygu...

 

www.givingupsmoking.co.uk

www.ash.org.uk