Prosiect Sir Gâr
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Prosiect Sir Gâr 

A Ydych yn Dymuno Helpu Eich Hunan I Gadw'n Iach? 

Os ydych yn 40 oed neu'n hŷn ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin i Corus a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, efallai y byddwch yn gymwys i gael archwiliad RHAD AC AM DDIM yn ymwneud â'ch iechyd cardiofasgwlar.

Bydd yr archwiliadau'n cael eu cynnal yn eich gweithle a byddant o gymorth ichi ddeall eich risg o ddatblygu yn y dyfodol gyflyrau megis clefyd y galon, clefyd yr arennau, strôc neu ddiabetes.

Mae'r archwiliadau iechyd eisoes ar gael ar safleoedd Corus a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin.

Os ydych yn gweithio i unrhyw un o'r cyrff hyn ac yn credu eich bod yn gymwys i gael archwiliad iechyd yn rhad ac am ddim, gallwch drefnu apwyntiad neu gael rhagor o wybodaeth yn eich Uned Iechyd Galwedigaethol. 

Os ydych yn gweithio i CORUS, ffoniwch 01554 712222 neu estyniad: 2222

Os ydych yn gweithio i FWRDD IECHYD HYWEL DDA, ffoniwch y gwasanaeth peiriant ffôn ar y rhif 01267 227427. Rhowch eich enw a'ch rhif ffôn ac fe gysylltir â chi ynghylch trefnu apwyntiad. Neu, anfonwch e-bost at prosiectsirgar@carmarthen.wales.nhs.uk

Gweithio Gyda'n Gilydd i Wella Eich Iechyd

Mae datblygu clefyd cardiofasgwlar, a all gynnwys clefyd y galon, strôc, diabetes neu glefyd yr arennau, yn risg sy'n wynebu pawb. Mae bob amser yn well atal clefyd na'i wella fodd bynnag ac mae llawer y gallwch chi ei wneud i gadw'n iach – beth bynnag fo'ch oed.


Fel rhan o archwiliad iechyd newydd sy'n cael ei dreialu yn Sir Gaerfyrddin, mae dau o gyflogwyr mwya'r sir, sef Corus a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig cyfle unigryw i weithwyr sy'n 40 oed neu'n hŷn gymryd rhan yn y gweithle mewn archwiliad iechyd RHAD AC AM DDIM sy'n ymwneud ag iechyd cardiofasgwlar, a fydd yn eich galluogi i gymryd camau i gadw'n iach neu wella eich iechyd.

Pam Mae Iechyd Cardiofasgwlar yn Bwysig?

Clefydau cardiofasgwlar yw prif achos marwolaethau yn y Deyrnas Unedig.  Mae'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, strôc, diabetes math 2 a chlefyd yr arennau yn cynyddu wrth ichi heneiddio, ac mae rhai pethau (a elwir yn ffactorau risg) yn golygu y bydd eich risg yn fwy byth. Mae'r rhain yn cynnwys: 

Bod dros bwysau
Diffyg ymarfer
Pwysedd gwaed uchel
Colesterol uchel
Straen


Mae dynion a merched mewn perygl o ddatblygu clefydau cardiofasgwlar, felly hyd yn oed os ydych yn teimlo'n iach, mae'n werth cael eich archwiliad iechyd rhad ac am ddim mewn perthynas â chlefydau cardiofasgwlar nawr, gan y bydd o gymorth i leihau'r posibilrwydd y byddwch yn datblygu problemau iechyd yn y dyfodol.

Beth Fydd yn Digwydd yn Ystod yr Archwiliad Iechyd?

Os ydych yn gweithio i unrhyw un o'r tri chyflogwr hyn, bydd nyrs ymarferwr yn eich gwahodd i archwiliad sy'n ymwneud â'ch iechyd cardiofasgwlar, neu gallwch wneud apwyntiad eich hun os yw'n well gennych wneud hynny.   Cewch ddewis o leoedd ar gyfer yr archwiliad: un ai yn eich man gwaith eich hunan (e.e. safle, swyddfa neu ward)  neu yn swyddfa'r nyrs ymarferwr.
Dim ond 20–30 munud y bydd yn ei gymryd.
Byddwn yn gofyn cwestiynau syml ichi am eich ffordd o fyw, unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych ac unrhyw hanes o glefydau cardiofasgwlar yn y teulu.

Bydd eich taldra, eich pwysau, eich oedran, eich rhyw a'ch cefndir ethnig yn cael eu cofnodi.
Bydd prawf gwaed syml, drwy bigo eich bys, yn canfod eich risg o fod â diabetes a'ch lefelau colesterol, a byddwn yn mesur eich pwysedd gwaed hefyd.

Beth Sy'n Digwydd Nesaf? 

Bydd y nyrs ymarferwr yn gallu cyfrifo beth yw'r risg y byddwch yn datblygu clefydau cardiofasgwlar yn ystod y deng mlynedd nesaf. Yn dibynnu ar eich canlyniadau, byddwn yn cynnig un neu ragor o'r canlynol ichi:

Cyngor personol ar sut mae gostwng eich risg ac arfer ffordd iach o fyw
  Rhaglen hybu iechyd benodol sy'n bwrpasol ar gyfer eich anghenion chi
Rhagor o brofion neu feddyginiaeth(au)

Bydd canlyniadau eich archwiliad iechyd yn cael eu rhoi i'ch Meddyg Teulu ond nid i'ch cyflogwr oni bai eich bod chi'n dymuno hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am glefydau cardiofasgwlar, ymwelwch â gwefannau:

Sefydliad Prydeinig y Galon   www.bhf.org.uk

Diabetes UK  www.diabetes.org.uk

Her Iechyd Cymru   http://wales.gov.uk/hcwsubsite/healthchallenge/?lang=cy

Datblygwyd y rhaglen hon o archwiliadau iechyd yn y gweithle gan BROSIECT SIR GÂR, sef prosiect ar y cyd y mae'r partneriaid canlynol yn rhan ohono:

                 
           
        
                    

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/1/2010