English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/3/2009
Safleoedd Picnic a Mannau Gwylio 

Mynydd Y Betws
Safle picnic ar ochr y mynydd ar dir comin sydd (^a) golygfeydd ysblennydd.  Bws agosaf Rhydaman/y Betws (3km).  (Cyfeirnod Grid SN 652103)

Blaen Esgair
Ar y B4333, 5km i’r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn.  Safle uchel gyda golygfeydd ar draws Dyffryn Teifi ac i Fynyddoedd Cambria.  Gwasanaeth bws anaml I Maudsland.  (Cyfeirnod Grid SN 329349)

Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili
2.5 hectar o dir deniadol Amgueddfa Caerfyrddin ger Llyn yr Esgob.  Gwasanaeth bws rheolaidd o Gaerfyrddin i Abergwili.  (Cyfeirnod Grid SN 444209)

Llwybr Dylan, Lacharn
Safle newydd uwchlaw’r aber ger y Boat House.  Gwasanaeth bws rheolaidd i Lacharn.  (Cyfeirnod Grid SN 305111)

Dryslwyn
Safle deniadol wrth dreod Castell Dryslwyn ar y B4297 gyda phaneli sy’n adrodd hanes y safle a thaith fer i’r castell.  Ceir toiledau ar y safle yn ystod y tymor.  Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd yn agos i Ddryslwyn.  (Cyfeirnod Grid SN 552203)

Rhydodyn
Wrth ymyl y B4337 2km i’r gogledd o Dalyllychau ar ran o hen ffordd.  Taith gerdded fer at weledfan ar Afon Cothi.  Mae gwasanaeth bws anaml yn mynd i Dalyllychau.  (Cyfeirnod Grid SN 634346)

Ffynnon Llawddog, Cenarth
Lleoliad deniadol iawn ar lannau Afon Teifi ychydig i lawr o Raeadrau/Pont Cenarth.  Mae Ffynnon Llawddog ar y safle ynghyd (^a) llwyfan pysgota i’r anabl.  Gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg o Gaerfyrddin i Aberteifi.  (Cyfiernod SN 266415)

Y Grist, Lacharn
Nid nepell o Gastell Lacharn ac yn ymyl maes parcio gyda seddau a gwybodaeth esboniadol.  Ceir gwasanaeth bws rheolaidd i Lacharn.  (Cyfeirnod Grid SN 302104)

Mynydd Llanllwni
Gweledfan ar ochr y mynydd ar dir comin agored sydd (^a) golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Teifi a’r ardal wledig gyfagos.  Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd i bentref Llanllwni (2km).  (Cyfeirnod Grid SN 507389)

Castell Newydd Emlyn
(Stryd y Castell).  Ardal hyfryd yng nghanol y dref yn edrych dros Afon Teifi ger y Castell ac yn ymyl y maes parcio.  Mae tir y castell gerllaw, a thaith ddeniadol ar lan yr afon.  Ceir gwasanaeth bws dyddiol rheolaidd i Gastell Newydd Emlyn.  (Cyfeirnod Grid SN 312407)

Pontarffinnant, Llanarthne
Safle cysgodol mewn ardal goediog uwchlaw Afon Twyi 1km i’r gorllewin o Lanarthne ar y B4300.  Ceir toiledau ar y safle yn ystod y tymor.  Mae wedi’i leoli ar brif lwybr bysiau o Gaerfyrddin i Landeilo.  (Cyfeirnod Grid SN 507202)

Dinas-Y-Bwlch
Ar y A483 ger ffin y Sir 10km i’r gogledd o Lanymddyfri.  Mae taith gerdded fer i’r weledfan ar ben y bryn yn cynnig golygfeydd panoramig o Ddyffryn Tywi/Bannau Brycheiniog.  Mae cyswllt rheilffordd gerllaw y safle.  (Cyfeirnod Grid SN 835437)

Ynys Fach, Glandy Cross
Gweledfan ar ochr y ffordd ar yr A478 yn edrych dros Fynyddoedd y Preseli gydag ardal bicnic/eistedd (gaeedig. - please put two dots over the second e).  Mae gwasanaeth bws anaml yn mynd i Glandy Cross.  (Cyfeirnod Grid SN 157278)

Pen-y-Mynydd, Mynydd Pen-bre
Ardal bicnic newydd ei datblygu rhwng Pen-bre a Thrimsaran.  Ceir golgyfeydd trawiadol o Gwm Gwendraeth a Bae Caerfyrddin.  Man cychwyn da ar gyfer defnyddio’r llwybrau cerdded ar Fynydd Pen-bre gan gynnwys coetiroedd Bwlch Newydd a Waun Baglan.  Bws agosaf – Trimsaran (2km).  (Cyfeirnod Grid SN 454308)