Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Parc Gweldig Llyn Llech Owain 
Llyn Llech Owain Country Park

Croeso i Barc Gwledig Llyn Llech Owain, ardal 64 hectar a reolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin er eich mwynhad. 

Nodwedd ganolog y Parc Gwledig yw’r llyn ei hun a amgylchynir gan fawnog. 

Coetir conwydd, a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y 1960’au sydd yng ngweddill y parc yn bennaf, ond mae yno hefyd ardaloedd o rostir sych a choetir llydanddail.  Gallwch fynd am dro ar hyd rhwydwaith o lwybrau cerdded.     

Mae gan nifer o’r llwybrau hyn wynebau da ac maent yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae llwybr arbennig a adeiladwyd yn arbennig yn caniatau i chi  fynd yn ddiogel ar draws y fawnog ac o amgylch y llyn. 

Os am fynd am dro hwy neu feicio o amgylch y Parc Gwledig, mae llwybr drwy’r goedwig ar eich cyfer a darparwyd llwybr beicio Mynydd garw ar gyfer y rhai mwy anturus yn eich plith.

Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Church Road, Gorslas,
Caerfyrddin, SA14 7NF.

(01269) 832229

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/3/2009
 
Manylion Cysyllt
 
Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Church Road, Gorslas,
Caerfyrddin, SA14 7NF.
(01269) 832229