English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Y Ganolfan Ddarganfod  
discovery centre

Yng nghalon y Parc Arfordirol saif adeilad eiconig Y Ganolfan Ddarganfod, sy’n gyfle i ymwelwyr ddod i wybod am yr atyniadau hamdden sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin yn un o’r lleoliadau mwyaf ysblennydd yn y sir.

A hithau’n edrych allan dros draeth Llanelli ac yn cynnig golygfeydd panoramig o Aber y Llwchwr a Phenrhyn Gŵyr, mae’r Ganolfan Ddarganfod yn fan galw cyntaf i ymwelwyr ac yn fan ymlacio perffaith i bobl sy’n teithio trwy’r Parc.

Cafodd yr adeilad unigryw hwn ei gynllunio’n bwrpasol i gyffroi dychymyg pobl ac nid yw’n ymddiheuro o gwbl am ei ymddangosiad beiddgar.
 
Fel y mae ei enw’n awgrymu, mae’r Ganolfan Ddarganfod arobryn yn bennaf oll yn lle i bobl ddysgu am y gwahanol rannau o’r Parc Arfordirol a’r llu o atyniadau eraill sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w cynnig.

Ar lawr gwaelod yr adeilad mae’r Ganolfan Groeso, lle y gall y staff cyfeillgar ateb ymholiadau naill ai wyneb yn wyneb, ar y ffôn, trwy lythyr neu e-bost.  Gallant ddod o hyd i leoedd i ymwelwyr aros, rhoi llyfrynnau ar atyniadau ledled Cymru a chynnig gwybodaeth arbenigol ar y lleoedd gorau i gael y bwyd a diod mwyaf blasus.

Y Ganolfan Ddarganfod 

Mae’r Ganolfan Groeso hefyd yn cynnwys siop sy’n cynnwys dewis o anrhegion o Gymru, mapiau a thywyslyfrau, celf a chrefft, a dewis helaeth o lyfrau a phetheuach y traeth

Mae’r llawr gwaelod hefyd yn gartref i lecyn chwarae i blant, gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol a llecynnau arddangos.
 
Ymhlith y cyfleusterau eraill sydd ar gael yn Y Ganolfan Ddarganfod mae ciosg hufen ia, bwyty ar yr ail lawr a chanolfan gynadledda o’r safon uchaf.
 
Eleni, mae cynlluniau hefyd i wella profiad ymwelwyr fwy fyth trwy ychwanegu nifer o weithgareddau awyr agored yng nghyffiniau’r Ganolfan Ddarganfod. Bydd teithiau asynnod ar y traeth, golff gwirion yn y twyni tywod, teithiau pedalo, reidiau carousel, castell sboncio a Swigod Hwyl - profiad cerdded ar ddŵr yn Noc y Gogledd gerllaw.

Yn yr ychydig flynyddoedd ers ei hagor, mae’r Ganolfan Ddarganfod wedi datblygu’n gyflym yn atyniad ymwelwyr pwysig ynddo’i hun ac yn ganolfan i Barc  Arfordirol y Mileniwm yn ei gyfanrwydd.

Ystafell Gynadledda

Prin fod gwell lleoliad ar gyfer canolfan gynadledda yng Nghymru nac ail lawr Canolfan Ddarganfod y Parc Arfordirol.

Gyda’i thair wal wydr, mae Canolfan Gynadledda’r Arfordir yn ymwthio dros ddarn o draeth tywodlyd ac yn cynnig golygfeydd godidog, dramatig a chyfnewidiol o Aber yr Afon Llwchwr.

Mae’r ganolfan yn cynnwys cyfleusterau rhagorol a bydd ei lleoliad unigryw yn ychwanegu at effaith unrhyw gyflwyniad gwerthiant, cyfarfod busnes, cynhadledd neu seminar hyfforddiant.

Mae’r Ganolfan Gynadledda ar gael saith niwrnod yr wythnos am brisiau llogi diguro.

Café Flanagan's

Mae Flanagan’s yn dod â blas y Riviera i Barc Arfordirol y Mileniwm gyda’i ddewis o goffi cyfandirol a danteithion melys.
 
Mae bwydlen y bwyty hefyd yn cynnig dewis o giniawau ysgafn, byrbrydau a diodydd eraill at ddant amrywiol ymwelwyr. Erbyn hyn, mae Flanagan’s yn denu dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn a thyfodd yn brif fan cyfarfod i bobl leol ac yn lle delfrydol i ymwelwyr â’r Parc orffwys, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd hyfryd sydd ar gael o’i leoliad ar lawr cyntaf Y Ganolfan Ddarganfod.

Ciosg y Mileniwm
Mae llyfwyr hufen ia ar ben eu digon yng Nghiosg Mileniwm Y Ganolfan Ddarganfod.

Mae’r dewis enfawr o hufen ia yn golygu fod rhywbeth at ddant holl ymwelwyr y Parc, boed ifanc neu hen. Mae cwsmeriaid hefyd yn cael y dewis o brynu eu danteithion wrth gerdded neu i ymlacio ar y celfi patio yn edrych allan dros draeth Llanelli ac Aber yr Afon Llwchwr.

Ar ddiwrnod braf, gall Ciosg y Mileniwm fynd â phobl i nefoedd hufen ia.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/3/2009
 
Manylion Cysyllt
 
Discovery Centre
The Discovery Centre
Millenium Coastal Park
Project Office, North Dock
Llanelli, Carmarthenshire
SA15 2LF

Email: pjread@carmarthenshire.gov.uk
Tel: (01554)777744
Fax: 01554 757825