English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cylch Gorchwyl 

Teitl

Bydd y Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) yn cael ei galw’n Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin
 

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
 
Gwaith Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yw rhoi cyngor i Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill fel bo’n briodol, am wella mynediad i’r cyhoedd ar dir yn yr ardal at ddibenion hamddena yn yr awyr agored a mwynhau’r ardal mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth reolaeth y tir, a buddiannau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac addysgol.

Bydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yn cyflawni’r swyddogaeth hon drwy gynghori ar faterion sy’n arbennig o berthnasol yn lleol, yn cynnwys:


o Cefnogi gweithredu’r hawl mynediad newydd i gefn gwlad agored;
o gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy; a
o datblygu strategaethau hamdden a mynediad sy’n gofalu am bawb.
Bydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yn gweithio tuag at:
o ddatblygu agwedd adeiladol a chynhwysol at wella mynediad i gefn gwlad i hamddena;
o parchu amgylchiadau lleol a buddiannau gwahanol wrth weithredu o fewn canllaw cenedlaethol;
o rhoi cyngor ar faterion o egwyddor ac ymarfer da;
o agor trafodaeth adeiladol a cheisio cael cytundeb lle bynnag bo modd; ac
o os na cheir cytundeb, gwneud natur y gwahanol safbwyntiau yn glir ac awgrymu sut y gallant gael eu datrys. 
 
Aelodaeth
 
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys:
• Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd a etholwyd yn unol â rheoliadau FfMLl;
• lleiafswm o 10 ac uchafswm o 20 o aelodau eraill, sy’n gorfod cynnwys cynrychiolaeth gytbwys o i) defnyddwyr mynediad hamdden a ii) tirfeddianwyr a deiliaid – ynghyd â chynrychiolaeth o fuddiannau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r ardal.
Bydd yr aelodaeth:
• yn gytbwys fel nad oes un grŵp o fuddiannau yn arglwyddiaethu;
• yn cynrychioli croestoriad o fuddiannau yn yr ardal; ac
• yn byw neu’n gweithio o fewn yr ardal neu â gwybodaeth drylwyr am yr ardal.
Bydd disgwyl i aelodau:
• lynu at yr adrannau sy’n ymwneud â Fforymau Mynediad Lleol yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rheoliadau perthnasol a’r Cylch Gorchwyl hwn;
• dangos ymrwymiad i gyrraedd nodau’r FfMLl drwy weithio’n adeiladol gydag aelodau eraill;
• gallu rhoi’r amser angenrheidiol i fynychu cyfarfodydd a rhwydweithio y tu allan i gyfarfodydd;
• bod â digon o brofiad o fynediad i gefn gwlad yn yr ardal leol i allu gwneud cyfraniad cytbwys ac adeiladol i wella’r ddarpariaeth mynediad; a
• gallu gweithio gydag ystod eang o grwpiau buddiannau. 
 

Gweinyddiaeth
 
Ysgrifenyddiaeth
Bydd gan Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin Ysgrifennydd a benodwyd gan yr Awdurdod Penodi (Cyngor Sir) a fydd yn gyfrifol am:
• roi cefnogaeth i Gadeirydd y Fforwm;
• sicrhau bod y Fforwm wedi ei sefydlu ac yn cael ei redeg yn unol â Deddf CROW, Rheoliadau FfMLl a’r Cylch Gorchwyl hwn;
• rheoli unrhyw adnoddau sydd wedi eu clustnodi ar gyfer y gwaith hwn;
• trefnu a chyhoeddi cyfarfodydd, yn cynnwys trefnu i ddosbarthu papurau a gwybodaeth i aelodau’r Fforwm ac i’r cyhoedd;
• cadw cofnodion o gyfarfodydd y Fforwm sy’n cynnwys penderfyniadau, nodiadau a chamau gweithredu yn unig. 
 
Cyfarfodydd
 
•cynhelir cyfarfodydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ac yn fwy aml fel a phryd y bo angen, hyn i’w gytuno gan y FfMLl a’r Awdurdod Penodi;
•bydd y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd yn cytuno ar agenda’r cyfarfod – er y gall unrhyw aelod gynnig eitemau i’w hystyried ar yr agenda;
•Bydd cyfarfodydd yn cael eu hysbysu ymlaen llaw a’r cofnodion yn cael eu cyhoeddi;
•Bydd y Fforwm yn gwahodd ymgynghorwyr / arsyllwyr i’r cyfarfod pan y bo’n briodol;
•Bydd ymgynghorwyr / arsyllwyr yn cael cyfrannu i’r drafodaeth ar ddisgresiwn y Cadeirydd;
•Bydd gan un cynrychiolydd o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac un o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw swyddog o’r Awdurdod Penodi statws arsyllwr yn awtomatig;
•Os bydd angen bydd pwyllgorau FfMLl yn cael eu sefydlu gan y Cadeirydd ar ôl cytuno â’r aelodau;
•Bydd pob un o gyfarfoydd y FfMLl yn rhai cyhoeddus.  Fodd bynnag, gall y person sy’n cadeirio, yn dilyn cais gan aelod neu aelodau, benderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o eitemau arbennig oherwydd preifatrwydd personol neu gyfrinachedd masnachol.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/4/2009