Golwg Gyffredinol ar yr Ymgynghoriad
Mae Safonau Gwasanaeth Galw Sir Gâr yn disgrifio'r Safonau sydd gennym ar gyfer darparu Gwasanaethau i'n Cwsmeriaid. Bwriad y Safonau yw rhoi gwybod i'r cwsmeriaid am y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym, ac rydym yn gobeithio y byddant yn ddefnyddiol i'r cwsmeriaid. Byddwn yn monitro ein perfformiad drwy ei gymharu â'r safonau hyn i sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaethau gwych i'n cwsmeriaid, ac os na fyddwn, am ryw reswm, yn gallu cyrraedd y safon byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid ac yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y mater dan sylw.
Galw Sir Gâr (Gwasanaethau Cwsmeriaid)
Yr Is-adran Polisi a Chwsmeriaid
Adran y Prif Weithredwr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Galw Sir Gar - Safonau Gwasanaeth
A pham?
Un o'n prif flaenoriaethau yw cyrraedd 'Safon Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid' newydd Swyddfa'r Cabinet ar gyfer Galw Sir Gâr.
Drwy gyflwyno Safonau Gwasanaeth y mae cwsmeriaid wedi cyfrannu atynt, gallwn gael cipolwg clir ac effeithiol ar yr hyn y mae cwsmeriaid eisiau o ran gwasanaethau cwsmeriaid a'r hyn sydd angen i ni ei wneud er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
Pryd y mae'r ymgynghori yn digwydd?
9fed Rhagfyr 2009 – dechrau 2010
Gwybodaeth Gyswllt
Ruth Lake
Cydgysylltydd Ymgynghori
Yr Is-adran Polisi a Chwsmeriaid
Adran y Prif Weithredwr
Rhif ffôn: 01554 742304
E-bost: RLake@sirgar.gov.uk neu Ymgynghori@sirgar.gov.uk