Mae canlyniadau Arolwg 2005 yn dangos bod llawer mwy o drigolion y sir yn fodlon bellach ar wasanaethau’r Cyngor, ac mae’r canlyniadau hyn yn well o lawer na rhai’r arolwg diwethaf yn 2001.
Gofynnodd yr arolwg i 1000 o bobl leol beth oedd eu barn am amrywiaeth o wasanaethau’r Cyngor, ac am wasanaethau’r Cyngor yn gyffredinol. Cafodd nifer o’n gwasanaethau ymateb da iawn, gyda mwy na 90% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon arnynt a chyda fawr neb yn anfodlon arnynt.
Ymysg y gwasanaethau gorau ym marn yr ymatebwyr oedd ein llyfrgelloedd, y gwasanaethau cefn gwlad, ein gwasanaeth budd-daliadau tai, a’r ysgolion.
O ran y meysydd hynny yr oedd yr ymatebwyr fwyaf anfodlon arnynt, yr oedd hi’n amlwg fod y bobl leol am weld rhagor o wasanaethau ar gyfer pobl ifainc, gwell cyfleusterau hamdden, a gwell darpariaeth o ran toiledau cyhoeddus ac arosfannau bysiau.