Llais Sir Gâr Panel Dinasyddion
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/10/2011
Llais Sir Gâr Panel Dinasyddion 

Y ffordd orau o ddarganfod beth yw eich barn am ein polisïau a'n gwasanaethau a'r modd y gallwn wella arnynt yw gofyn i chi. Un o'r ffyrdd y gwnawn hyn yw drwy ein Panel Dinasyddion, "Llais Sir Gaerfyrddin".

Menter ar y cyd yw'r Panel Dinasyddion rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae 1,000 o bobl leol yn aelodau o'r Panel a ddewisir i gynrychioli'r gymuned ar amrywiaeth eang o nodweddion megis rhyw, oed a lleoliad. Gofynnir i aelodau'r Panel lenwi 3 neu 4 o holiaduron y flwyddyn am y Cyngor, yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd Hywel Dda a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Recriwtio ar gyfer y Panel

Mae canran benodol o'r aelodau yn cael ei newid yn rheolaidd i sicrhau bod y Panel yn parhau i fod yn gynrychioliadol a hefyd i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan. Os ydych am gael eich ystyried, pan fydd llefydd gwag ar gael, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

Trwy glicio ar y ddolen gyswllt byddwch yn cyrraedd ffurflen recriwtio ar wefan Heddlu Dyfed-Powys. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweinyddu'r panel ar ran y partneriaid [Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys, a Bwrdd Iechyd Hywel Dda], ac yn sicrhau bod yr holl fanylion a roddwch yn cael eu cadw yn gwbl gyfrinachol ac nad ydynt yn cael eu rhoi i neb arall.

A fyddwch chi gystal â nodi y bydd y bobl hynny sydd yn llenwi ein ffurflen recriwtio yn cael eu cloriannu, er mwyn sicrhau bod y Panel yn cynrychioli trawstoriad o boblogaeth Sir Gaerfyrddin, ac felly mae'n bosibl na fyddwn yn gallu derbyn pob un sydd yn cyflwyno cais.

 Cliciwch yma i wneud cais am ymuno â Llais Sir Gâr.