English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2012
Taliadau Treth y Cyngor 

Mae bil Treth y Cyngor wedi'i rannu yn dair rhan.

  • Costau'r Cyngor Sir.
  • Costau'r Cyngor Cymuned.
  • Costau Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.


Bydd eich bil yn dangos faint o'r tâl a delir i'r tri pharti.

Mae'r Cyngor yn pennu'r tâl ar eiddo sy'n lefel Band D ond bydd y symiau a delir ar eiddo mewn bandiau eraill yn fwy neu'n llai yn ôl y cymarebau canlynol.

 A  B  C  D  E  F  G  H  I Band
 6/9  7/9  8/9  9/9  11/9  13/9  15/9  18/9  21/9  Cymhareb

Mae'r bil llawn am Dreth y Cyngor yn tybio bod dau oedolyn yn byw mewn preswylfa. Os un oedolyn yn unig sy'n byw mewn preswylfa a ddefnyddir fel y prif gartref, gostyngir chwarter (25%) ar fil Treth y Cyngor.

Ar gyfer preswylfa sydd heb fod yn brif gartref i unrhyw berson ac sydd heb ei ddodrefnu, gostyngir hanner (50%) ar y bil neu efallai bydd yn ddi-dreth (gweler gostyngiadau ac eithriadau am fanylion pellach).