Cafodd Treth y Cyngor ei chyflwyno ym 1993. Gosodwyd pob preswylfa (tŷ, byngalo, fflat ac ati) yn un o’r 8 Band Prisio ar sail gwerth y breswylfa ar y farchnad agored, ym 1991.(Cafodd preswylfeydd newydd a adeiladwyd ers hynny eu prisio yn ôl prisiau 1991 hefyd).
Penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y dylai pob preswylfa yng Nghymru gael ei hailbrisio. Asiantaeth y Swyddfa Brisio – rhan o wasanaeth Cyllid y Wlad –fu’n gyfrifol am yr ailbrisio, a gwblhawyd ym mis Medi 2004. Ar ôl hynny, cafodd pob preswylfa wybod ym mha Fand Prisio y byddent o fis Ebrill 2005.
Daeth y Bandiau newydd i rym ar 1 Ebrill 2005 ac maent yn seiliedig ar brisiau eiddo ar 1 Ebrill 2003. (Anwybyddwyd codiadau o ran prisiau ers hynny a bydd preswylfeydd newydd yn cael ei prisio yn ôl prisiau 2003.)
Yma, wrth gwrs, cododd prisiau tai yn aruthrol rhwng 1991 a 2003. Felly, penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru newid ystod brisio y Bandiau Prisio, ac ychwanegu Band I ar gyfer y tai drutaf.
I’r rhan fwyaf o bobl, golyga hyn na fydd eu heiddo, o reidrwydd, yn symud i fand uwch er bod gwerth yr eiddo wedi cynyddu. Mae’r tabl isod yn dangos y prisiau gwreiddiol a’r prisiau newydd ar gyfer y gwahanol Fandiau Prisio.
Yn Sir Gaerfyrddin, nid yw’r mwyafrif helaeth o breswylfeydd wedi newid Band, ac mae bron i 5,000 wedi symud i Fand is. Fodd bynnag, bydd oddeutu 1 o bob 3 preswylfa wedi symud i Fand uwch.
| A |
Hyd at £30,000 |
Hyd at £44,000 |
| B |
£30,000 - £39,000 |
£44,001 - £65,000 |
| C |
£39,000 - £51,000 |
£65,001 - £91,000 |
| D |
£51,000 - £66,000 |
£91,001 - £123,000 |
| E |
£66,000 - £90,000 |
£123,001 - £162,000 |
| F |
£90,000 - £120,000 |
£162,001 - £223,000 |
| G |
£120,000 - £240,000 |
£223,001 - £324,000 |
| H |
£240,001 - ac yn uwch |
£324,001 - £424,000 |
Beth os credaf fod y prisio yn anghywir?
Cofiwch, nid y Cyngor sy’n gyfrifol am y prisio ac ni all ymdrin ag apêl nac ateb ymholiadau ynghylch sut y cafodd eich eiddo ei brisio.
Os credwch fod eich eiddo wedi cael ei brisio’n anghywir, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio drwy ffonio’r llinell gymorth, sef 0845 6001748, i drafod eich pryderon. Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn derbyn bod yr eiddo wedi’i brisio’n anghywir, gellir newid band yr eiddo heb orfod cyflwyno apêl ffurfiol.
Gellir gwneud apêl ffurfiol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio o fis Ebrill 2005. Gellir cael ffurflenni apêl o’r Swyddfa Brisio neu gan y Cyngor. Gellir gwneud apêl ar-lein hefyd drwy wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio www.voa.gov.uk.
Isod, nodir cyfeiriadau’r Swyddfa Brisio:
Preswylfeydd yn Rhanbarthau Caerfyrddin a Dinefwr gynt
Y Swyddog Rhestru
Adeiladau’r Llywodraeth
Heol Picton
Caerfyrddin
Preswylfeydd yn Rhanbarth Bwrdeistref Llanelli gynt
Y Swyddog Rhestru
Tŷ Nant
180 Stryd Fawr
Abertawe
Sut y gallaf ddod o hyd i’r Band Prisio newydd ar gyfer eiddo yn Sir Gaerfyrddin?
Cewch weld Rhestr Brisio 2005 ar wefan y Cyngor, 'Cliciwch yma'
Neu gellir ei gweld yn unrhyw un o dair Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor sef:
- 3 Spilman Street, Carmarthen
- Ty Elwyn, Llanelli
- Neuadd y Dref, Rhydaman
A oes unrhyw gymorth ar gael os oes cynnydd mawr wedi bod o ran Band Prisio eiddo?
Mae’r Cynulliad wedi cyflwyno cynllun ‘Cymorth Cyfnod Pontio’ ar gyfer eiddo sydd wedi symud i fyny ddau fand neu ragor. Mae’r cynllun yn golygu na fydd eiddo yn codi fwy nag un band yn 2005/06.
Mae rhai eithriadau, er enghraifft, bydd perchenogion newydd, ar ôl Ebrill 2005, yn talu’r codiad llawn ac ni chynigir cymorth i’r rhan fwyaf o’r rheiny sydd â thai gwag sydd wedi’u dodrefnu.