English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/8/2010
Rhyddid Gwybodaeth 

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl ichi gael golwg ar y wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus megis Cyngor Sir Caerfyrddin.  

Mae ceisiadau am wybodaeth bersonol amdanoch chi yn cael sylw mewn dull ar wahân o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Sut mae gwneud cais?

Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth. Mae'n rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyfeirio'n uniongyrchol at y Cyngor. 

Mae'n rhaid iddo gynnwys enw a chyfeiriad ar gyfer yr ymateb.

Yn ogystal, dylid disgrifio'r wybodaeth y gwneir cais amdani a hynny mor glir ag y bo modd.
Gellir cyflwyno cais mewn nifer o ffyrdd:

1. Drwy lythyr, neu drwy ddefnyddio'r ffurflen yn y daflen sydd ar gael o Ganolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, llyfrgelloedd ac ati.
2. Drwy e-bost: drg@sirgar.gov.uk  
3. Neu drwy lenwi ein ffurflen gais ar-lein. 

Ar ôl inni gael cais, ac eglurhad (os oes angen hynny arnom) i'n galluogi i chwilio am y wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae'n ofynnol inni ddarparu ymateb cyn pen 20 o ddiwrnodau gwaith.

A fyddaf i bob amser yn cael y wybodaeth yr wyf yn gofyn amdani?

Mae'r Ddeddf yn rhoi hawl ichi gael y canlynol:

• cael gwybod a yw'r wybodaeth honno gennym ai peidio
• cael y wybodaeth (a hynny lle bo modd yn y dull y gofynnwyd amdano, er enghraifft ar ffurf copi electronig, ar ffurf crynodeb neu drwy archwilio ffeiliau).

Ym mhob achos posibl byddwn yn sicrhau bob amser fod y wybodaeth yn cael ei rhoi, ond gall fod achosion hefyd lle mae rheswm dilys pam na allwn roi'r wybodaeth.

Efallai na allwn roi'r wybodaeth oherwydd yn syml ddigon nid yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael gennym, neu oherwydd bod un o'r eithriadau yn y Ddeddf yn berthnasol.

Os felly byddwn yn rhoi esboniad ysgrifenedig llawn ynghylch pam nad ydym yn gallu darparu'r wybodaeth.

Mae Côd Ymarfer y Cyngor ynghylch Caniatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr eithriadau hynny ac yn manylu ar ein polisi o ran bod yn agored ac o ran gallu cael golwg ar wybodaeth.

Wrth ymateb i geisiadau byddwn yn darparu'r wybodaeth oedd gennym cyn i'r Ddeddf ddod i rym yn ogystal â'r wybodaeth sydd gennym ar ôl hynny, yn unol â'n Polisi Rheoli Cofnodion a'n Canllawiau ynghylch Cadw Gwybodaeth.

A oes yn rhaid talu i gael gwybodaeth?

Pan fydd angen darparu llungopïau neu ddeunydd wedi ei argraffu, bydd y Cyngor yn codi taliadau safonol gan ychwanegu costau postio os bydd angen.  Ni fyddwn yn codi am unrhyw gopïau sy'n costio llai na chyfanswm o £2.00.  Mae'r holl daliadau yn cynnwys TAW.
Mae'r gost fesul copi fel a ganlyn:

A4 du a gwyn - 10c
A4 lliw - 20c
A3 du a gwyn - 20c
A3 lliw - 40c
A2 - 50c
A1 - £2.00
A0 - £5.00 

 phwy yr wyf yn cysylltu?

Y man cyswllt ar gyfer ceisiadau o dan y Ddeddf yw'r Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data, Adeilad 14, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB, ffôn 01267 246108 neu e-bost drg@sirgar.gov.uk.   

Y Cynllun Cyhoeddi

Mae'r Cyngor wedi sicrhau eisoes fod llawer iawn o wybodaeth ar gael drwy ein Cynllun Cyhoeddi.  Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi'n rheolaidd a gellir cael golwg arni heb gyflwyno cais o dan y Ddeddf. 

Rhagor o Wybodaeth

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorff annibynnol sy'n sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r Ddeddf, ac mae wedi llunio 'Siarter Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth Cyfrifol', sy'n cynnwys cyngor ynghylch sut mae defnyddio'r ddeddfwriaeth hon mewn modd effeithiol.

 
Manylion Cysyllt
 
Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data,
Adeilad 14, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB,
Ffôn: 01267 246108
drg@sirgar.gov.uk