Hepgor gwe-lywio | Newid maint y testun AAA |  Testun yn Unig | Ieithoedd | Cymorth | Cysylltwch â ni
Iaith Gymraeg 
learning the welsh language

Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yma yn Sir Caerfyrddin ceir y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg dros Gymru gyfan. Dengys Cyfrifiad 2001 fod 83,802 o boblogaeth y Sir yn medru’r Gymraeg, a cheir manylion pellach drwy’r modiwl ystadegau ar ein gwefan.

Mae Cyfrifiad 2001 yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth am y Gymraeg, nid yn unig ar lefel genedlaethol, ond ar lefel sirol. Cynyddodd y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o 509,098 ym 1991 i 575,730 yn 2001. Er y cynnydd yng Nghymru, gostyngiad bu i’r canrannau yng nghadarnleoedd y Gymraeg, gan gynnwys Sir Gâr wrth i’r niferoedd ostwng o 89,213 yn 1991 i 83,802 yn 2001. Mae’n rhaid nodi fod cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg ymysg pobl ifanc, yn enwedig ymhlith oedrannau pump i bymtheg. Mae’n amlwg fod y datblygiadau cyson yn narpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog wedi cael effaith bendant ar y niferoedd o blant oed ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg.

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith fod  y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn helaeth yn y Sir a'i bod ar gynnydd mewn sawl ardal - gyda mwy o blant, pobl ifanc a phobl hyn yn dysgu ac yn defnyddio'r iaith. Mae'r Cyngor wedi'i ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo'r iaith ac annog y defnydd ohoni trwy'r sir gyfan.

Mae'r Cyngor yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddisgrifiwyd yn 2003 yn ei chynllun gweithredu 'Iaith Pawb'. Fel noda’r cynllun, mae’r  "Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth genedlaethol… ac yn rhan hanfodol ac oesol o hanes, diwylliant a gwead cymdeithasol ein cenedl. Rhaid i ni barchu'r etifeddiaeth honno a gweithio i sicrhau nad yw'n cael ei cholli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Gan ein bod fel Cyngor yn ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg yn y Sir, yr ydym wedi penodi aelod arbennig o'r Bwrdd Gweithredol i fod yn gyfrifol am ddatblygu'r iaith Gymraeg sef y Cynghorydd Wyn Evans. I'w gynghori ar y ffordd ymlaen mae yna Banel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg wedi'i sefydlu yn ogystal.

Cynllun Iaith Gymraeg 2006-2008

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal.  Mae’r Cynllun Iaith yn disgrifio sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Cyngor yn cydnabod:

  • y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith;
  • mai mater o arfer da yn hytrach na goddefgarwch yw eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith;
  • gall gwadu’r hawl i ddefnyddio’u dewis iaith eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol.

Felly, bydd y Cyngor yn cynnig i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin yr hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ddelio â’r Cyngor.

Mae'n ofynnol, yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg.

Dylai'r cynllun ddisgrifio sut y bydd y corff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau a chyfathrebu gyda'r cyhoedd a dylai gynnwys adrannau ar y materion canlynol:

  • Cyhoeddi dogfennau dwyieithog;
  • Cynnal delwedd gorfforaethol ddwyieithog;
  • Hyrwyddo'r defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus;
  • Ateb y ffôn yn ddwyieithog; 
  • Gohebu yn ddwyieithog gyda'r cyhoedd;
  • Sicrhau bod sefydliadau trydydd parti yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg;
  • Darparu gwasanaethau dwyieithog; 
  • Prif ffrydio'r Gymraeg i bolisïau a gwasanaethau.

Mae’r Cynllun ar gael ar nifer i wahanol fformat. Cysylltwch â’r Swyddog Polisi Corfforaethol am fanylion pellach. 

Nod y Cyngor yw:

  • Meithrin dwyieithrwydd ar draws y Cyngor ac ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin
  • Galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol
  • Gwella safon y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr adrannau
  • Annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ym mywyd yr ardal.  Trwy hynny, bydd y Cyngor yn cyfrannu at yr ymgyrch i adfywio’r Gymraeg ar draws Cymru’n ôl Iaith Pawb, agenda strategol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gofalu bod holl bolisïau, strategaethau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ac yn annog pobl i’w defnyddio’n amlach
  • Helpu pob unigolyn a sefydliad ar draws Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio’r Gymraeg
  • Datblygu gallu disgyblion ysgol a myfyrwyr o bob oedran i fod yn gadarn ddwyieithog ac yn llythrennog yn y ddwy iaith, er mwyn mynd yn aelodau cyflawn o’r gymuned ddwyieithog y maen nhw’n byw ynddi.
  • Codi hyder a gwella sgiliau dwyieithog staff, cynghorwyr a thrigolion y sir
  • Datblygu delwedd fodern a deinamig i’r sir gyfan, sy’n parchu ei threftadaeth ac yn hyrwyddo’r Gymraeg

Gallwn ddarparu'r cynllun mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau – gellir cysylltu â’r Swyddog Iaith am ragor o fanylion.

Dolenni i'r Cynllun Iaith Gymraeg a safleoedd defnyddiol eraill

Cyhoeddwyd Iaith Pawb ym mis Chwefror 2003 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ddogfen bolisi strategol ac yn gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer Cymru ddwyieithog. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i’r achos o adfywio a rhoi egni newydd i’r Gymraeg, ac mae Cyngor Sir Gâr yn llawn gefnogi'r amcanion hynny.

www.cymru.gov.uk

Mae gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am y Gymraeg ac am ddatblygiadau cyfoes mewn cynllunio ieithyddol.

www.bwrdd-yr-iaith.org.uk  

Ar lefel lleol, mae’r Mentrau Iaith yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel gymunedol, boed mewn clybiau ol-ysgol neu mewn cyngherddau a digwyddiadau cymdeithasol. Ceir manylion pellach ar eu gwaith yn eich cymuned leol chi drwy wefan www.mentrau-iaith.com  

Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/8/2008
 
Manylion Cysyllt
 
Swyddog Polisi Corfforaethol (Yr Iaith Gymraeg)
Cwsmeriaid a Pholisi 
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

01267 224914