Cwynion, Canmoliaeth Neu Sylwadau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 02/5/2013
Cwynion, Canmoliaeth Neu Sylwadau 

Dweud eich dweud

Rydym am i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu fod cystal ag sy’n bosibl, a dyna pam y mae eich adborth yn bwysig i ni.

Efallai y byddwch yn teimlo’n anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych yn ei gael, neu efallai y bydd gennych awgrym a fydd o gymorth i ni ei wella.

Rydym yn gobeithio hefyd y bydd adegau pan fyddwn yn gwneud gwaith da.

Cwynion

Rydym yn sylweddoli bod gan bawb hawl i gwyno ac y gall cwynion ddysgu gwersi gwerthfawr i ni.  Mae’n bosibl iawn y bydd eich cwyn yn gwella pethau i bawb.

Canmoliaeth

Byddem yn hoffi cael gwybod am yr achosion hynny pan lwyddodd ein gwasanaeth i wneud argraff dda arnoch neu eich plesio. Gallwn ddefnyddio’r enghreifftiau hynny i rannu arfer gorau ymhlith ein staff. Gall canmoliaeth fod o gymorth hefyd i hybu hyder ac annog ein staff i ddarparu gwasanaeth ardderchog unwaith eto.

Pryd dylid defnyddio'r weithdrefn hon?

Pan fyddwch yn mynegi pryderon neu'n cwyno wrthym, byddwn fel arfer yn ymateb fel yr eglurir isod. Fodd bynnag, weithiau gall fod gennych hawl statudol i apelio (e.e. yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniatâd cynllunio neu fudd-dal treth y cyngor i chi) felly, yn hytrach nag ymchwilio i'ch pryder, byddwn yn esbonio wrthych sut gallwch chi apelio.

Mae gennym daflen ar wahân sy'n egluro gweithdrefnau ein hadran Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ymdrin â chwynion. Os hoffech dderbyn copi o'r daflen, cysylltwch â'r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth drwy ffonio 01267 224488, anfonwch e-bost i cwynion@sirgar.gov.uk neu ewch i wynion, canmol neu wneud sylwadau

 
Manylion Cysyllt
 

Carmarthenshire Direct - a one-stop-shop which aims to make it easier for people to contact the authority

Galw Sir Gar
Ffonio 01267 234567
E-bost galw@sirgar.gov.uk