Mae i swyddogaeth craffu rôl allweddol o ran hyrwyddo atebolrwydd yn y broses lle mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau.
Hefyd mae'r swyddogaeth craffu yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod polisïau'r Cyngor yn amlygu blaenoriaethau cyfredol, o ran hyrwyddo effeithlonrwydd, ac o ran annog gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau.
Mae gan Cyngor Sir Caerfyrddin 7 Pwyllgor Craffu:
- Polisi ac Adnoddau
- Addysg a Gwasanaethau Plant
- Yr Amgylchedd
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Tai
- Adfywio ac Hamdden
- Cyfiawnder Cymdeithasol, Trosedd ac Anrhefn
Am fwy o wybodaeth ar y broses craffu yn Sir Gaerfyrddin, cliciwch ar y cysylltiadau ar ochr chwith y dudalen.