Caiff y Cyngor ei gynnal gan Gynghorwyr, sy'n cael eu hethol gan y gymuned leol.
Mae'r Cyngor yn cynnwys 74 Cynghorydd etholedig o amrywiaeth o grwpiau Gwleidyddol. Nhw sy'n gwneud y penderfyniadau ac yn cytuno ar bolisïau a blaenoriaethau gwariant y Cyngor. Ar ran y gymuned leol maent yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, cyllidebau, lefel gyffredinol gwasanaethau'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor sydd i'w chodi bob blwyddyn.
Etholir pob Cynghorydd i gynrychioli ardal benodol (Ward Etholiadol) ac fel arfer bydd yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd (pryd bydd yn rhaid iddynt sefyll eto os ydynt am gael eu hail-ethol).
Mae gan Gynghorwyr nifer o rolau a chyfrifoldebau ac mae angen iddynt gydbwyso anghenion a buddiannau eu cymuned, eu plaid wleidyddol neu eu grŵp ag anghenion trigolion yr ardal yn gyffredinol.
Yn lleol, mae eu gwaith yn cynnwys cynnal cymorthfeydd i helpu pobl leol, cefnogi sefydliadau lleol, ymgyrchu ynghylch materion lleol, datblygu cysylltiadau â phob rhan o'r gymuned, a bod yn arweinyddion cymunedol. Wrth ystyried anghenion y Sir yn gyfan, mae angen iddynt flaenoriaethu pa wasanaethau sydd i'w darparu gan y Cyngor, a lefel y gwasanaethau hynny.
Gallwch gael gwybod pwy yw eich Cynghorydd lleol, ar ba bwyllgorau mae'n gwasanaethu, ac i ba blaid wleidyddol mae'n perthyn, trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Cronfa Ddata'r Cynghorwyr
Os nad ydych yn sicr pwy yw eich Cynghorydd, gallwch chwilio yn y gronfa ddata uchod trwy nodi eich côd post neu eich cyfeiriad.