Trwyddedu Dethol yn ardal Tyisha, Llanelli
Mae’r Cyngor yn ceisio barn ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno cynllun Trwyddedu Dethol yn ardal Tyisha, Llanelli.
Mae Trwyddedu Dethol yn caniatáu i gynghorau gael mwy o reolaeth ar landlordiaid preifat mewn ardaloedd lle mae'r galw am dai yn isel neu lle mae problemau sylweddol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rhaid i landlordiaid fodloni amodau penodol er mwyn cael trwydded a rhaid i landlordiaid a thenantiaid gydymffurfio â rhwymedigaethau a osodir arnynt fel rhan o'r drwydded. Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu llunio'n adroddiad ar gyfer y Bwrdd Gweithredol.
Am rhagor o wybodaeth ffoniwch Gareth Williams, Arweinydd y tîm Safonau Tai, ar 01554 742109. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Mehefin.
- Cynllun Trwyddedu Dethol
Parc Howard - Y Prosiect Parciau i Bobl
Mae cynllun ar waith i gyflwyno cais am fuddsoddiad o Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn gwella'r cyfleusterau ym Mharc Howard.
Bydd y prosiect yn cyfoethogi ymweliadau pobl â'r Parc, ac yn helpu i sicrhau bod gan y Parc ddyfodol llewyrchus am flynyddoedd lawer.
Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn destun ymgynghori, a fyddwch cystal â bwrw golwg dros y cynigion ac anfon eich sylwadau, eich cwestiynau, eich cefnogaeth a'ch ymholiadau ynghylch yr holl agweddau i'r cyfeiriad e-bost canlynol:- leisure@sirgar.gov.uk
Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Adroddiad Amgylcheddol ynghylch yr Asesiad Amgylcheddol Strategol
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn darparu ar gyfer rheolaeth well a chynhwysfawr o berygl llifogydd i bobl, cartrefi, a busnesau. Mae'r Ddeddf yn rhoi argymhellion Syr Michael Pitt ar waith, sef bod deddfwriaeth frys yn angenrheidiol, yn dilyn ei adolygiad o lifogydd 2007.
Fel rhan o'r ddeddf mae'n ofynnol i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ddatblygu, cynnal, gweithredu, a monitro'r modd y rhoir ar waith strategaeth ar gyfer peryglon llifogydd lleol o ran dŵr wyneb, dŵr daear, a chyrsiau dŵr yn eu hardaloedd.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer ardal weinyddol Sir Gaerfyrddin. Ar ôl ystyried gofynion Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu bod angen cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol o'i Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (y 'Strategaeth Leol').
Mae'r Adroddiad Amgylcheddol ynghylch yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cynnwys gwybodaeth am yr asesiad amgylcheddol ac am effeithiau sylweddol tebygol y fersiwn drafft o'r Strategaeth Leol. Mae'r Adroddiad Amgylcheddol yn rhan o'r dogfennau ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y fersiwn drafft o'r Strategaeth Leol.
Bydd canlyniadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a mabwysiadu'r Strategaeth Leol derfynol. Yn anffodus nid yw'r dogfennau hyn ar gael yn Gymraeg gan taw dogfennau technegol drafft ydynt at ddibenion ymgynghori'n unig ac am gyfnod penodol yn unig. Fodd bynnag os hoffai unrhyw un drafod unrhyw faterion yn yr adroddiad hwn ag aelod o'r staff yn Gymraeg, mae croeso ichi gysylltu â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567 a gofyn am gael siarad â Rheolwr y Strategaeth Amddiffyn rhag Llifogydd. Bydd y strategaeth derfynol ar gael yn Gymraeg.