Hepgor gwe-lywio | Newid maint y testun AAA |  Testun yn Unig | Cymorth | Cysylltwch â ni
Ffliw moch - Gwybodaeth ffliw Pandemig 
swine flu important information - ring 0800 1 513 513

Mae pob asiantaeth yn Sir Gâr yn cydweithio i sicrhau dull cyd-drefnus i wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer achosion o ffliw pandemig.

Rydym yn monitro’r sefyllfa ac yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn ei dro yn cydweithio â’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru: yr Asiantaeth Diogelu Iechyd a’r Llywodraeth y DU.

Mae gan Gyngor Sir Gâr gynlluniau mewn lle, ac fe fyddwn yn ymdrin â’r sefyllfa yn unol â’r datblygiadau.

Os ydych yn gofidio am y ffliw moch, ymwelwch â gwefan Galw Iechyd Cymru http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan

Mae cyngor teithio ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad

Mae gwybodaeth gefndir a gwybodaeth bellach ar y clefyd ar gael ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gallwn oll gymryd camau bach mewn glendid i leihau gwasgaru germau:-

  • Defnyddio hancesi papur i orchuddio eich ceg a trwyn os ydych yn pesychu a tisian
  • Gosod hancesi papur wedi defnyddio yn y bin sbwriel yn syth
  • Cadw glendid personol da, er enghraifft, golchi dwylo yn rheolaidd gyda dwr a sebon i leihau gwasgaru firysau o’r dwylo i’r wyneb ac i bobl eraill
  • Golchi arwynebau caled (e.e. handlen drws) yn aml gan ddefnyddio deunyddiau glanhau arferol
  • Helpu eich plant i ddilyn y canllaw

Cofiwch – EI DDAL, EI DAFLU, EI LADD

Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/8/2009
 
Manylion Cysyllt
 
swine flu information ring - 0800 1 513 513
chysylltwch â’ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0800 1 513513