English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cwmni Veolia Transport yn rhoi’r gorau i weithredu gwasanaethau  

Mae cwmni Veolia Transport Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i weithredu gwasanaethau bysiau 126/127/130/145/146/164 yn ardal Rhydaman. Dydd Sadwrn, 9fed Ebrill 2011 fydd y dyddiad olaf y bydd y cwmni’n eu gweithredu.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud trefniadau dros dro i Fysiau First Cymru ddarparu’r gwasanaethau am y tro, tra asesir y defnydd ohonynt a thra hysbysebir y tendrau.  

Gallwn sicrhau teithwyr na ddylai’r gwasanaethau a weithredir gan First fod yn wahanol i’r gwasanaethau presennol, gan fod y Cyngor wedi rhoi cyfarwyddyd mai’r un amserlenni’n union ag yr oedd Veolia yn eu gweithredu fydd yn weithredol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y newidiadau uchod, a fyddech cystal â chysylltu ag Uned Cludiant Teithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 228306.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/3/2011