English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyllid newydd yn tanio injan Bwcabus 
10/06/2011 

Mae cynllun sy’n helpu pobl i deithio i’w gwaith yng nghefn gwlad gorllewin Cymru wedi cael hwb ariannol o £1.3 miliwn mewn cyllid Ewropeaidd a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwasanaeth Bwcabus, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn helpu pobl mewn rhannau gwledig o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i deithio i’w gwaith neu i gyrraedd gwasanaethau addysg, hyfforddiant ac iechyd.

Hwn yw’r prosiect cyntaf o’r fath yng Nghymru, ac mae’n arloesi drwy alluogi pobl i ddal y bws ger eu cartref neu yn yr arhosfan bws agosaf cyn ymuno wedyn â’r gwasanaethau bws a thrên arferol.

Bydd y cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn ychwanegol at y £750,000 a roddwyd eisoes eleni gan Lywodraeth Cymru. 

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd:

“Mae’n hanfodol creu opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy er mwyn i bobl cefn gwlad allu bod o fewn cyrraedd i waith, hyfforddiant a gwasanaethau lleol eraill. Bydd hynny’n helpu’r cymunedau gwledig i ffynnu. Mae’r cynllun hefyd yn hyrwyddo manteision economaidd ac amgylcheddol twristiaeth gynaliadwy, gan alluogi ymwelwyr i ddal y bws a gadael eu ceir gartref.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dulliau arloesol a modern o greu rhwydwaith trafnidiaeth i ddiwallu anghenion Cymru’r 21ain ganrif. Dyma enghraifft bositif o’r modd yr ydym yn defnyddio cyllid Ewropeaidd i hybu ein strategaethau penodol ein hunain, gan ddod â rhagor o gyfleoedd i bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Lansiwyd y gwasanaeth Bwcabus yn 2008, gyda £350,000 gan Lywodraeth Cymru a £500,000 o gyllid o’r UE. Mae’r cynllun yn cyfuno’r  dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys GPS a meddalwedd amserlennu, i sicrhau bod  teithwyr yn gallu cydgysylltu eu teithiau â’r prif wasanaethau bws a thrên.

Ers ei sefydlu, mae Bwcabus wedi profi’n llwyddiant ysgubol, gan gipio tair gwobr genedlaethol a chyflawni llawer mwy na’r targedau gwreiddiol.

Llwyddwyd i gwblhau dros 21,000 o deithiau drwy’r gwasanaeth, ac mae mwy na 900 o bobl wedi cofrestru i’w ddefnyddio.

Cymaint oedd poblogrwydd y gwasanaeth yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion fel bod y galw am Bwcabus wedi cynyddu 40% yn y flwyddyn gyntaf. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â’r dirywiad cyffredinol yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad.

Meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Trafnidiaeth: "Mae’r gwasanaeth Bwcabus poblogaidd hwn yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad gorllewin Cymru– drwy helpu pobl i gyrraedd gwasanaethau allweddol, teithio i’w gwaith a manteisio ar gyrsiau hyfforddiant a chyfleoedd addysgol eraill.  "Wrth estyn y gwasanaeth Bwcabus i rannau newydd o Ddyffryn Teifi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion byddwn yn darparu gwasanaeth cost-effeithiol i deithwyr mewn mannau anghysbell ac yn cynnal cysylltiad hollbwysig rhwng lleoliadau gwledig a threfol yn y gorllewin."

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin dros yr Amgylchedd a Rheoli Pobl:  “Rydym yn hynod hapus i arwain y prosiect cydweithredol hwn, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng nghymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.”

Yr hydref diwethaf, cyflwynwyd gwobr rhagoriaeth i swyddogion y prosiect gan Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn seremoni wobrwyo fawreddog  y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth yn Llundain.

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd Bwcabus ei gydnabod fel y ‘Prosiect Trafnidiaeth Mwyaf Arloesol’ yn seremoni’r Gwobrau Trafnidiaeth Cenedlaethol, Manceinion. Roedd y cynllun eisoes wedi ennill y wobr am y Bartneriaeth Orau yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru.

Datblygwyd y model gwreiddiol ar gyfer y cynllun peilot tair-blynedd ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Morgannwg. Mae’r ganolfan yn parhau i gynnig cyngor a chefnogaeth dechnegol i’r prosiect, a fydd, o bosibl, yn cael ei estyn i bob rhan o gefn gwlad Cymru yn y pen draw.

Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n rhedeg y gwasanaeth presennol, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru, Traveline Cymru, Richards Brothers a Morris Travel.