English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trefniadau Bws dros Basg 2011 

Y gwasanaethau bysiau a weithredir ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin dros gyfnod y Pasg, 2011 

Dydd Gwener y Groglith, 22ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Gwener arferol ar hyd pob llwybr, ond bydd First Cymru yn gweithredu’r gwasanaeth dydd yr arferir ei weithredu ar Ddydd Sadwrn.

Dydd Sadwrn, 23ain Ebrill 2011:  Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol.

Dydd Sul, 24ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sul arferol.

Dydd Llun y Pasg, 25ain Ebrill 2011: Yr unig un o wasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn gweithredu ar y diwrnod hwn fydd amserlen Dydd Sul ar lwybrau 222 (Caerfyrddin – Pentywyn) a 227 (Caerfyrddin – Llan-y-bri)

Dydd Mawrth, 26ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Mawrth arferol ar hyd pob llwybr ond bydd First Cymru yn gweithredu’r gwasanaeth dydd yr arferir ei weithredu ar Ddydd Sadwrn (ond ni weithredir teithiau ychwanegol Dydd Sadwrn gyda’r hwyr)

Dydd Mercher, 27ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Mercher arferol ar hyd pob llwybr, ond bydd First Cymru yn gweithredu’r gwasanaeth dydd yr arferir ei weithredu ar Ddydd Sadwrn (ond ni weithredir teithiau ychwanegol Dydd Sadwrn gyda’r hwyr)

Dydd Iau, 28ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Iau arferol ar hyd pob llwybr, ond bydd First Cymru yn gweithredu’r gwasanaeth dydd yr arferir ei weithredu ar Ddydd Sadwrn (ond ni weithredir teithiau ychwanegol Dydd Sadwrn gyda’r hwyr)

Dydd Gwener, 29ain Ebrill 2011 (Dydd y Briodas Frenhinol): Bydd y trefniadau arbennig canlynol yn weithredol ar y dyddiad hwn:

• Bydd First Cymru yn gweithredu gwasanaeth Dydd Sadwrn ond NI FYDD gwasanaeth 215 yn gweithredu.

• NI FYDD cwmnïau'r Brodyr Richards, Bysiau Ffoshelig na Bysiau Cwm Taf yn gweithredu dim gwasanaethau (bydd hyn yn cynnwys gwasanaeth Bwcabus).

• Bydd Morris Travel yn gweithredu gwasanaethau 206, 207, 226/228, 280/281 fel arfer, a HOLL deithiau gwasanaeth 460 (gan gynnwys y teithiau hynny a weithredir gan amlaf gan gwmni'r Brodyr Richards), ond NI FYDD yn gweithredu gwasanaethau B5/199, 166, 215, 222, 225, 278, 279, 284, 288/289.

Dydd Sadwrn, 30ain Ebrill 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sadwrn arferol.

Dydd Sul, 1af Mai 2011: Gweithredir y gwasanaethau Dydd Sul arferol.

Dydd Llun, 2il Mai 2011: Yr unig rai o wasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin a gaiff eu gweithredu ar y diwrnod hwn fydd amserlen Dydd Sul ar lwybrau 222 (Caerfyrddin - Pentywyn) a 227 (Caerfyrddin - Llan-y-bri)

Sylwch mai dim ond ar gyfer y teithiau a weithredir ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin y mae'r manylion uchod yn berthnasol.  Dylai teithwyr gysylltu â'r gweithredwr bysiau i gadarnhau manylion y gwasanaethau bysiau masnachol, a'r gwasanaethau hynny a weithredir ar ran Awdurdodau Lleol eraill.

Bydd y gwasanaeth Parcio a Theithio rhad ac am ddim rhwng Nant-y-ci a Chanol y Dref yn gweithredu fel arfer ar 22ain Ebrill (Dydd Gwener y Groglith) ac ar 29ain Ebrill (Dydd y Briodas Frenhinol) ond ni fydd yn gweithredu ar 25ain Ebrill (Dydd Llun y Pasg) nac ar 2il Mai (Gŵyl Banc Calan Mai).


Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/3/2011