Cyfarwyddiadur Gwasanaethau Bws Lleol a Chanllaw Teithio - Rhifyn 12
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyfarwyddiadur Gwasanaethau Bws Lleol a Chanllaw Teithio - Rhifyn 12 
15/12/2010 

Bydd rhifyn diweddaraf o gyhoeddiad poblogaidd Cyngor Sir Caerfyrddin “Cyfarwyddiadur Gwasanaethau Bws Lleol a Chanllaw Teithio” ar gael nawr.

Mae Rhifyn 12 y Cyfarwyddiadur yn cynnwys yr holl nodweddion arferol sy’n gwneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gymaint yn rhwyddach, gan gynnwys map teithio lliw, mynegai i’r teithiau bysiau a threnau, cyfeiriadau a rhifau ffôn, gwybodaeth ar Deithebau a Thocynnau Crwydro, yn ogystal ag amserlenni llawn ar gyfer pob taith bws yn Sir Gaerfyrddin a’r ardal.

Mae’r Cyfarwyddiadur ar gael yn rhad ac am ddim o nifer o ganolfannau drwy’r Sir, gan gynnwys Swyddfeydd y Cyngor, Canolfannau Gwybodaeth i Ymwelwyr, Cwmnïau Bysiau, Llyfrgelloedd a rhai Siopau a Swyddfeydd Post. Mae copïau hefyd ar gael oddi wrth Galw Sir Gâr ar 01267 234567, neu drwy e-bostio TrafnidiaethGyhoeddus@sirgar.gov.uk