Ebrill 30ain, 2011 yw'r diwrnod olaf y gall y rhai yn Sir Gaerfyrddin sy’n ddeiliaid Tocyn Teithio Rhatach Cymru Gyfan fanteisio ar docynnau teithio hanner pris ar drenau lleol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno â Threnau Arriva Cymru y bydd y budd yn dod i ben. Bydd yn arbed oddeutu £60,000 y flwyddyn i drethdalwyr y Cyngor.
Dim ond yr elfen hon o'r cynllun teithio rhatach sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor yr effeithir arni. Bydd consesiwn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar deithio rhad ac am ddim, heb gyfyngiadau, ar fysiau lleol cofrestredig ledled Cymru, sef consesiwn y mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru gan gynnwys Sir Gaerfyrddin yn ei gynnig, yn parhau.
Am weddill y mis hwn (Ebrill) bydd gan y rhai sydd â Thocyn Teithio Sir Gaerfyrddin sef y rhai sy'n 60 oed neu'n hŷn, a phobl sydd ag anableddau penodol, hawl i brynu tocynnau trên hanner pris, sef tocynnau unffordd cyffredin a thocynnau undydd, dwyffordd, cyffredin ar deithiau trên sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin. Bydd hyn yn cynnwys teithiau ar reilffyrdd Gorllewin Cymru a Chalon Cymru. Nid yw'n cynnig gostyngiad ar docynnau trên dosbarth cyntaf.
Yn ogystal, gellir defnyddio'r Tocyn Teithio er mwyn teithio i leoedd yn y siroedd cyfagos ac ohonynt cyhyd ag y bo taith yr un sydd â thocyn teithio yn cychwyn neu'n gorffen yn Sir Gaerfyrddin. Mae hynny'n cynnwys pob gorsaf yn Sir Benfro ac i’r dwyrain cyn belled ag Abertawe ar reilffordd Gorllewin Cymru; a phob gorsaf i’r de cyn belled ag Abertawe ac i’r gogledd cyn belled â Llandrindod ar reilffordd Calon Cymru.