Mae’r rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn y Sir yn cysylltu â bron pob prif dref a phentref, ac yn cyrraedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyfrytaf.
Mae’r olygfa yng nghefn gwlad yn amrywio o drefi marchnad i bentrefi tawel sydd wedi’u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf hardd a dilychwin. Gallwch ymweld â chestyll hynafol sy’n rhan annatod o hanes yr ardal a chanolfannau sy’n arddangos hen grefftau traddodiadol, trefi sy’n cyfuno cyfleusterau siopa modern â nodweddion hanesyddol naturiol, ac amrywiaeth o atyniadau i deuluoedd ym mhob tywydd.
Ers cyflwyno Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru mae’n hawdd ymweld â’r llefydd hyn ar fws. Yn syml iawn rydych yn prynu’r tocyn ar y bws y byddwch yn teithio arno gyntaf a’i ddefnyddio i fynd a dod fel y mynnwch gydol y dydd. Mae’r tocyn yn ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro - byddwch yn synnu pa mor bell y gallwch deithio mewn diwrnod.
Gall y gwasanaethau sy’n y cyfarwyddiadur hwn eich cludo cyn belled â Dinbych-y-pysgod, Aberteifi neu Abertawe, ond mae’r Tocyn Crwydro yn caniatau i chi deithio ymhellach. Beth am fynd i arfordir Ceredigion am y dydd neu ymweld ag arfordir Gorllewin Sir Benfro? Gofynnwch yn eich Canolfan Croeso agosaf am fanylion yr amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Bydd Tocyn Crwydro yn ddilys yn unig ar wasanaethau bws lleol - nid yw hynny yn cynnwys gwasanaethau sydd ar gael i plant ysgol yn unig, gwasanaeth National Express 507/508/528, gwasanaethau 167, 701, PR1, X14 (gwasanaeth Powys), X26, gwasanaeth “Arriva Cymru Express” 10 a 20, neu siwrneiau masnachol rhwng Caerfyrddin a Phentywyn ar wasanaeth 222 (bydd modd o hyd i deithwyr brynu a defnyddio’r tocynnau hyn ar siwrneiau ar wasanaeth 222 ar ddydd Sul ac ar wyliau banc gan fod y siwrneiau hynny’n cael eu darparu ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin).
Cofiwch fod eich Tocyn Crwydro yn caniatau teithio di gyfyng ar y dyddiad y prynir y tocyn ar y bysiau hynny sy’n rhan o’r cynllun, sy’n golygu y gallwch dorri eich taith yma ac acw fel y mynnwch.
Mae Tocyn Crwydro Diwrnod yn costi £7.00 i oedolion a £3.50 i blant. Mae Tocyn Crwdro WYTHNOS newydd yn costi dim ond £28 i oedolion a £14 i blant.
Cofiwch - mae’r Tocyn Crwydro yn hawdd i’w ddefnyddio ac ar gael ar y rhan fwyaf o fysiau. Gwnewch yn fawr o’ch amser rhydd. Tocyn Crwydro - Tocyn i Fwynhad.