English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Cynllun Prisiau Consesiwn 

 

Cynllun Prisiau Consesiwn sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ar 1af Ebrill 2002.

Mae’r cynllun newydd yn rhoi’r hawl i bobl hyn a phobl ag anableddau sy’n byw yng Nghymru i deitho am ddim ar wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru. Yn ogystal, mae’n bosib y bydd gan bobl anabl a fyddai’n methu teithio heb gymorth yr hawl i fynd â chyd-deithiwr gyda nhw yn rhad ac am ddim.

Sut i wneud cais am Bas Teithio Consesiwn:

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais, sydd ar gael o Swyddfeydd Post. Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais wedi’i llenwi ynghyd â thystiolaeth o’ch cyfeiriad a thystiolaeth eich bod yn gymwys ac 1 llun maint pasport lliw yn y Swyddfa Bost. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn y tocyn drwy’r post o fewn 21 diwrnod os yw’r cais yn llwyddiannus.

Efallai y bydd angen i rai ymgeiswyr sy’n cyflwyno cais ar sail eu hanabledd gwneud eu cais i’r Cyngor Sir a llenwi ffurflen ychwanegol er mwyn asesu tystiolaeth. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn galluogi’r Cyngor i gael tystiolaeth feddygol annibynnol a fydd yn ei gynorthwyo i wneud penderfyniad.

Pwy sy’n gymwys?

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn byw yn barhaol yn Sir Gaerfyrddin, a hefyd fodloni un o’r meini prawf a restrir isod a rhaid iddo/iddi gyflwyno dogfennaeth briodol at ddibenion gwirio.

  • Menywod a dynion 60 oed a hyn
  • Personau dall a rhannol ddall
  • Personau â nam ar eu clyw
  • Personau heb leferydd
  • Personau heb freichiau neu heb ddefnydd o’r ddwy fraich dros gyfnod hir
  • Pobl ag anabledd dysgu 
  • Personau ag anabledd neu sy’n dioddef o anaf, sydd yn cael effait sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gerdded
  • Personau y byddai eu cais am drwydded yrru yn cael ei wrthod ar sail iechyd

Beth mae’r Pas Teithio yn ei gynnig i’r deiliad?

Mae’r Pas Teithio yn rhoi hawl i’r deiliad deithio am ddim heb gyfyngiadau ar wasanaethau bysiau lleol cofrestredig ledled Cymru. (D.S. Dim ond y gwasanaethau bysiau hynny a gofrestrwyd yn eu cyfanrwydd fel gwasanaethau lleol gyda’r Comisynydd Teithio a gaiff gymryd rhan yn y cynllun).

Sylwch nad yw’r Pas Teithio yn rhoi hawl i’r teithiwr i deithio am ddim ar y canlynol:

  • Teithiau tacsi
  • Gwasanaethau fferi
  • Gwibdeithiau neu deithiau hir mewn bws moethus
  • Gwasanaethau National Express
  • Gwasanaethau X40 rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd

Yn ogystal, mae’r tocyn teithio yn caniatau i ddeiliaid yn Sir Gaerfyrddin deithio am ddim ar y tren ar Reilffordd Calon Cymru i unrhyw le rhwng Abertawe a’r Amwythig. Bydd y cynllun am ddim yn cael ei weithredu o 3ydd Hydref 2011 hyd 31ain Mawrth 2012.

Gellir hefyd defnyddio’r tocynnau i deithio am hanner y pris arferol ar rai teithiau Ceir Cefn Gwlad.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/11/2011
 
Manylion Cysyllt
 

Carmarthenshire Direct

Tel: 01267 234567
Email: direct@carmarthenshire.gov.uk