Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi paratoi’r canllawiau polisi isod mewn perthynas â Gorfodaeth Parcio Sifil. Mae’r polisïau yn y ddogfen hon wedi’u bwriadu i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i gynnig canllawiau i weithwyr y cyngor sy’n gorfodi’r rheoliadau parcio wrth eu gwaith.
Mae’r canllawiau’n gyson â’r arferion gorau ar hyn o bryd ac maent yn ceisio darparu eglurder, cysondeb a thryloywder yn y broses orfodi, gan gydymffurfio hefyd â dyheadau’r Gwasanaeth Cenedlaethol Dyfarnu ynglŷn â Pharcio a’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Yr hyn sy’n bwysig am y polisïau hyn yw eu bod yn sylfaen i arfer tegwch a disgresiwn arnynt. Mae’r llysoedd wedi cydnabod pwysigrwydd hyblygrwydd yn y materion hyn ac, o ganlyniad, rhaid i’r penderfyniadau a wneir gan gynghorau beidio â chael eu llyffetheirio drwy fod yn rhy fformiwläig.
Mae’r polisïau yn ymdrin â’r isod:
- Amseroedd arsylwi i staff gorfodi
- Ar ba seiliau statudol y ceir cyflwyno sylwadau
- Amgylchiadau lliniaru
- Derbyn neu wrthod her neu sylwadau
Mae’n bwysig cydnabod y bydd pob achos yn cael ei ystyried ar ei haeddiant unigol. Dylid rhoi’r pwys mwyaf ar gymesuredd, gwrthrychedd, tegwch a rhesymoldeb.