Ar ddiwrnod y briodas bydd angen i chi ddod ag o leiaf dau o bobl eraill sy'n fodlon tystio i'r briodas ac i lofnodi'r gofrestr briodas.
Os ydych eisiau gwybod mwy am seremonïau priodas mewn swyddfeydd cofrestru neu mewn eiddo wedi'i gymeradwyo gofynnwch i'r cofrestrydd arolygol am fanylion. Er na all seremoni priodas ym mhresenoldeb cofrestrydd arolygol, yn ôl y gyfraith, gynnwys unrhyw agweddau crefyddol, gall fod yn bosibl, os yw'r swyddogion cofrestru sy'n gweinyddu'r briodas yn cytuno, i chi gynnwys cerddoriaeth anghrefyddol a/neu ddarlleniad o farddoniaeth ac i'r briodas gael ei recordio ar fideo.