Hysbysu Crwner
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Hysbysu Crwner 

Mae nifer fach o farwolaethau y mae'n rhaid eu hysbysu i'r crwner cyn y gellir eu cofrestru a chyn y gellir rhoi'r ddogfen sy'n caniatáu i'r angladd fynd yn ei flaen. Y canlynol yw'r marwolaethau a gaiff eu hysbysu i'r crwner gan y cofrestrydd, os nad oes neb arall eisoes wedi'u hysbysu iddo:

  • lle nad oes meddyg sy'n gallu rhoi tystysgrif feddygol o achos marwolaeth, neu
  • lle na welwyd yr ymadawedig gan y meddyg sy'n rhoi'r dystysgrif feddygol ar ôl marw nac o fewn 14 niwrnod cyn marw, neu
  • lle mae achos y farwolaeth yn anhysbys, neu
  • lle credir bod achos y farwolaeth yn annaturiol neu'n amheus, neu
  • lle digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth neu cyn dadebru o anesthetig, neu
  • lle'r achoswyd y farwolaeth gan glefyd diwydiannol neu wenwyno diwydiannol

Ar ôl i farwolaeth gael ei hysbysu i'r crwner, ni all y cofrestrydd fynd yn ei flaen â'r cofrestru nes bod y crwner wedi penderfynu a oes angen ymchwiliad pellach i'r farwolaeth. Yn y mwyafrif llethol o achosion nid oes angen ymchwiliad pellach a gellir cwblhau'r cofrestru yn syth.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008