English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Dod o hyd i wybodaeth am Gontractau'r Cyngor 

Os bydd y contract dros Drothwy yr UE, bydd Hysbysiad yn cael ei roi yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), y gellir ei weld ar TED (Tenderers Electronic Daily) sef y fersiwn ar-lein o OJEU…http://ted.europa.eu

Caiff pob gweithgaredd caffael dros £25,000 ei hysbysebu ar y wefan Caffael Cenedlaethol, sef gwefan GwerthwchiGymru (Gwefan Sell2Wales) ac argymhellir eich bod yn cofrestru ar y wefan hon. Gallwch wneud hynny am ddim a bydd yn gyfle i chi hyrwyddo eich corff nid dim ond i Gyngor Sir Caerfyrddin, ond hefyd i Sector Cyhoeddus Cymru a chael gwybodaeth dros yr e-bost am gyfleoedd posibl.

Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o’r gweithgaredd caffael o dan £25000 yn cael ei roi ar wefan GwerthwchiGymru, ond rydym yn aros am gyfarwyddyd yngylch sut orau i fynd i’r afael â’r lefel hon o wariant. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gwerth is hwn a pha mor ddeniadol yw I fusnesau bach, yn enwedig busnesau newydd.

Lle bo hynny’n briodol, hysbysebir pob tendr yn y wasg, gan gynnwys y wasg leol, ac weithiau y wasg genedlaethol, ac yn ogystal mewn cylchgrawn neu gyhoeddiad masnachol priodol.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/10/2011