Bydd Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr yn creu cysylltiadau llwyddiannus â chwmnïau lleol, yn helpu o ran recriwtio a chael unrhyw gyllid sydd ar gael, trwy gymryd y camau canlynol:
- Bod yn ddolen gyswllt â’r Cyflogwyr lleol a’u helpu o ran eu hanghenion recriwtio
- Sicrhau bod recriwtio yn rhatach, yn haws ac yn gyflymach i gwmnïau a sicrhau bod ymgeiswyr addas ar gael iddynt
- Ystyried y dulliau recriwtio mwyaf effeithiol er mwyn dewis yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd – y tu hwnt i’r cyfweliad traddodiadol.
- Rhannu gwybodaeth â chwmnïau a sicrhau y rhoddir sylw i bob dewis o ran cael cymorth â’r costau recriwtio, hyfforddiant, cadw staff a chymorth parhaus
- Rhannu eu gwybodaeth â chleientiaid Gweithffyrdd er mwyn cael yr unigolyn iawn ar gyfer y swydd a’r swydd iawn ar gyfer yr unigolyn
- Rhannu gwybodaeth am swyddi gwag â chleientiaid i’w galluogi i ymbaratoi i fod yn ymgeisydd addas drwy gael hyfforddiant a phrofiad gwaith
- Creu swyddi dros dro sy’n cwmpasu amryw o gyfleoedd er mwyn helpu pobl i gamu ar ris cyntaf yr ysgol