Grantiau Gwella Trefi a Pentrefi
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Grantiau Gwella Trefi a Pentrefi 


Nod Grantiau Gwella Trefi a Phentrefi yw rhoi hwb i economi'r sir drwy annog pobl i wneud gwelliannau i adeiladau mewn trefi a phentrefi ledled y sir gan ddefnyddio buddsoddiad cyfalaf ar raddfa fach. Cynigir grant i berchnogion adeiladau masnachol er mwyn gwella tu blaen yr adeiladau. Mae’r canlyniadau nodweddiadol ar gyfer y math hwn o gynllun yn cynnwys nifer y busnesau a gynorthwyir a nifer y swyddi a ddiogelir.

Dyma enghreifftiau o gynlluniau y rhoddwyd grant iddynt yn y gorffennol:

Caban y Dderwen, Caerfyrddin

Derbyniodd Nia Jones, perchennog caffi llwyddiannus yn Stryd Mansel, Grant Gwella Pentrefi i dalu am hanner y gost (£4,690) o ail-wneud y fframiau pren ar flaen y siop. Cafodd yr holl wydr a phren ar flaen y siop eu newid ac ail-baentiwyd y tu allan. Mae Caban y Dderwen wedi ei leoli o fewn Ardal Gadwraeth felly cafodd blaen y siop ei ail-wneud yn y dull traddodiadol.

Caban y Dderwen


Rhoddwyd y grant hwn o dan y Prosiect Gwella Pentrefi, a dderbyniodd £940,049 drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Hugh Evans y Cigydd, Llandeilo

Mae'r tu allan i un o’r adeiladau ar Stryd Rhosmaen yn Llandeilo wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant, fel ei fod yn gweddu’n well i adeiladau masnachol cyfagos yn y dref. Bu’n rhaid i’r adeiladwyr gadw at reolau llym adran gynllunio'r Cyngor Sir gan fod yr adeilad o fewn ardal gadwraeth.
Derbyniodd Hugh Evans Grant Gwella Trefi o £14,000 tuag at gyfanswm cost y prosiect o £32,658. Cafodd y Grant Gwella Trefi, a weinyddwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Awdurdod Datblygu Cymru gynt, arian Amcan Un Ewrop, a Chronfa Adfywio Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Butchers

      Butchers

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/8/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Rhif ffôn: 01267 234567

Galw Sir Gâr - Carmarthenshire Direct