Mae'r prosiect ar ffurf cynllun grant cyfalaf a fydd yn rhoi taliad i aelwydydd amaethyddol sy'n arallgyfeirio i faes nad yw'n ymwneud ag amaethyddiaeth.
Bydd grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer:
- Addasu adeiladau diangen
- Prynu offer cyfalaf

Amcanion y prosiect hwn yw:
- Cynnal a chynyddu incwm aelwydydd amaethyddol yn y Sir Gaerfyrddin wledig.
- Darparu'r adnoddau cyfalaf angenrheidiol i alluogi teuluoedd amaethyddol i arallgyfeirio i faes nad yw'n ymwneud ag amaethyddiaeth.
- Cadw pobl ifanc yn y diwydiant amaethyddol drwy eu helpu i ddatblygu ffynonellau incwm eraill a chyfleoedd cyflogaeth eraill.
Ardaloedd Cymwys
|
Abergwili |
Cynwyl Gaeo |
Llanfihangel Aberbythych |
Llanybydder |
|
Gogledd Tref Caerfyrddin |
Talacharn |
Llanfihangel-ar-Arth |
Manordeilo a Salem
|
|
De Tref Caerfyrddin |
Llanboidy |
Llangadog |
Sanclêr |
|
Gorllewin Tref Caerfyrddin |
Llanddarog |
Llangeler |
Llanismel |
|
Cenarth |
Llandeilo |
Llangynnwr |
Trelech |
|
Cil-y-cwm |
Llanymddyfri |
Llangyndeyrn |
Hendy-gwyn |
|
Cynwyl Elfed |
Llanegwad |
Llansteffan |
|
Grantiau Addasiadau yng Nghefn Gwlad
Cymorth grant gwerth rhwng £10,000 a £50,000 i addasu adeiladau fferm diangen er mwyn galluogi ffermwyr i arallgyfeirio i feysydd busnes newydd (nad ydynt yn ymwneud ag amaethyddiaeth).
Rhoddir blaenoriaeth i'r defnyddiau canlynol:
- Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau (cyfleusterau addysg, gofalu am blant a sgiliau cymdeithasol
- Gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau sy'n darparu gwasanaethau ategol mewn perthynas â phrif atyniadau i dwristiaid
- Gwella cyfleusterau i'w gosod i fusnesau
- Siopau fferm
Rhaid i'r sawl sy'n derbyn grant gyflogi ymgynghorydd proffesiynol sy'n meddu ar y cymwysterau priodol i asesu tendrau, i oruchwylio gwaith, ac i gyflwyno tystysgrifau ar gyfer gwaith a gwblheir. Gellir talu am hyn drwy’r grant am hyd at 15% o gyfanswm costau'r prosiect ar yr amod ei fod wedi cael ei gynnwys yn y ffurflen gais a bod cytundeb ysgrifenedig gan y Cyngor Sir.
Grant Offer Cyfalaf
Mae rhwng £1,000 a £10,000 ar gael i helpu ffermwyr i brynu offer sy'n hanfodol er mwyn eu galluogi i arallgyfeirio i feysydd busnes newydd.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Vivienne Davies, Rheolwr Prosiect Adfywio Ffisegol.