Cyllidir y cynllun Adeiladau Gwledig Diangen gan y Cynllun Datblygu Gwledig. Rhaglen gyllido dros saith mlynedd yw'r Cynllun Datblygu Gwledig, gyda'r bwriad o helpu datblygu cynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru . Cyllidir y Cynllun Datblygu Gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer 2007-13.
Nod y prosiect yw helpu i adfywio’r Sir Gaerfyrddin wledig yn ffisegol ac yn economaidd drwy gynnig cymorth grant ar ffurf Grantiau Adeiladau Gwledig Diangen i'r sector preifat. Bydd y Grantiau Adeiladau Gwledig Diangen yn helpu i ddefnyddio adeiladau diangen yn y Sir Gaerfyrddin wledig at ddibenion busnes, a fydd yn creu swyddi newydd ac yn diogelu swyddi presennol. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi a gaiff eu creu a'u diogelu.

Meini Prawf Asesu a Blaenoriaethau
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd y Cyngor Sir yn asesu'r prosiect yn erbyn amrywiol feini prawf fel a ganlyn:-
- Nifer y swyddi newydd parhaol a grëir.
- Nifer y swyddi a ddiogelir.
- Nifer yr adeiladau a gaiff eu gwella.
Gwerth am Arian – ar sail canran y grant y gofynnir amdano yng nghyswllt cyfanswm costau cymwys y prosiect.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi uniongyrchol a gaiff eu creu, a bydd y grant yn amodol ar hynny.
Cymhwysedd
Gall unigolion, partneriaethau, cwmnïau bach cyfyngedig, cwmnïau cydweithredol, ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau gwirfoddol gyflwyno cais
Mae’n rhaid i'r adeilad i'w ddatblygu fod yn ardal y Cynllun Datblygu Gwledig. Cliciwch yma i weld map o ardal y Cynllun Datblygu Gwledig.
|
Abergwili |
Cynwyl Gaeo |
Llanfihangel Aberbythych |
Llanybydder |
|
Gogledd Tref Caerfyrddin |
Talacharn |
Llanfihangel-ar-Arth |
Manordeilo a Salem
|
|
De Tref Caerfyrddin |
Llanboidy |
Llangadog |
Sanclêr |
|
Gorllewin Tref Caerfyrddin |
Llanddarog |
Llangeler |
Llanismel |
|
Cenarth |
Llandeilo |
Llangynnwr |
Trelech |
|
Cil-y-cwm |
Llanymddyfri |
Llangyndeyrn |
Hendy-gwyn |
|
Cynwyl Elfed |
Llanegwad |
Llansteffan |
|
Mae'r grant wedi'i gyfeirio at ficrofusnesau. Y diffiniad o ficrofusnesau yw busnesau sy'n cyflogi llai na 10 o staff cyfwerth amser llawn ac y mae eu trosiant a gwarged yn llai na 2 filiwn ewro.
Ni fydd grantiau ar gyfer gwaith ar eiddo ar gael ond i berchnogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddeiliaid prydles sydd i barhau am o leiaf bymtheg mlynedd arall ar y dyddiad pan ragwelir talu'r grant, ac sydd wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig eu landlord i gwblhau'r gwaith arfaethedig
Nid yw'r grant ar gael i newid neu adnewyddu adeiladau diangen at ddibenion preswyl, amaethyddol na garddwriaethol.
Mae'r gwaith anghymwys yn cynnwys:- gwaith adnewyddu'n unig, lle na fydd defnydd adeilad yn cael ei newid; gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arferol; gwaith sy'n ymwneud â gofynion iechyd a diogelwch; gwaith statudol; costau prynu; gwaith dymchwel sylweddol; tirweddu meddal; cyfarpar symudol - dylech ofyn am eglurhad gan y Cyngor Sir; gwaith sydd eisoes wedi cychwyn.
Y Grant
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos bod angen cymorth arnynt. Lle dangosir bod angen o'r fath, dylai'r ymgeiswyr wneud cais am y cyfraniad lleiaf sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus. Seilir y grant naill ai ar £20,000 am bob swydd a grëir / a ddiogelir neu ar 50% o gostau cymwys y prosiect, pa ffigwr bynnag sydd leiaf. Ni ellir cael arian cyfatebol gan ffynonellau Cyngor Sir eraill ar gyfer y grant hwn.
Sut mae gwneud cais?
I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais Rhan 1, cysylltwch â'r canlynol:
Vivienne Davies
Rheolwr Prosiect Adfywio Ffisegol
Cliciwch yma am esiamplau o brosiectau blaenorol ag ariannwyd gan grantiau tebyg.