Mae dwy ran i’r chwiliad:
LLC1 (Cofrestr Pridiannau Tir Lleol)
Chwiliad o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yw hwn sy’n cael ei chynnal gan yr Uned sy’n delio â pridiannau y gellir eu cofrestru er enghraifft - Grantiau Gwella / Adnewyddu, Gorchmynion Cadw Coed, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Adeiladau Rhestredig a.y.b.
CON29 (Ymholiadau’r Awdurdod Lleol)
Ffurf safonol yw hon y cytunwyd arni gan Gymdeithas y Gyfraith sy’n gofyn am fewnbwn oddi wrth Adrannau eraill o fewn yr Awdurdod. Mae’r wybodaeth sy’n dod i’r fei fel rhan o’r CON29 yn cynnwys materion sy’n ymwneud â phriffyrdd, gwaith draenio, cynllunio ac iechyd yr amgylchedd.